Mae defnyddio 100% o drydan adnewyddadwy o ffynonellau lleol yn cyd-fynd â nodau cynaliadwyedd, economaidd ac amgylcheddol Cyngor Sir Caerfyrddin, yn ôl cynghorydd sydd wedi bod yn siarad â golwg360.
Aled Vaughan Owen yw’r Aelod Cabinet dros Newid Hinawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd ar Gyngor Sir Caerfyrddin, ac mae’n dweud bod buddion mawr i ddefnyddio 100% o drydan adnewyddadwy o ffynonellau lleol yng Nghymru, ar lawr gwlad ac yn genedlaethol.
Roedd yr holl drydan brynodd y Cyngor rhwng Ebrill 2021 a Mawrth y llynedd wedi’i gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy – sy’n gynnydd o 63% ers 2019-20, ac yn garreg filltir arwyddocaol wrth i’r Cyngor drosglwyddo i fod yn awdurdod carbon isel.
Yn ystod 2021/22, daeth y ffynonellau trydan o fiomas (1.2%), gwynt y môr (58.7%), solar (7.65%) a gwynt (32.4%).
Manteision
“Mae’n lleihau allyriadau carbon a niwed amgylcheddol sy’n gysylltiedig â ffynonellau ynni anadnewyddadwy, gan gyfrannu at ymdrechion byd-eang i frwydro yn erbyn argyfwng yn yr hinsawdd,” meddai Aled Vaughan Owen wrth drafod y brif fantais amgylcheddol wrth ddefnyddio trydan o ffynonellau adnewyddadwy.
O ran yr economi, dywed y gall cefnogi cynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol “ysgogi’r economi ranbarthol drwy greu swyddi yn y sector adnewyddadwy a hybu buddsoddiad yn yr ardal”.
O ran sicrwydd ynni, gall dibynnu ar ffynonellau adnewyddadwy lleol “wella diogelwch ynni, gan leihau’r perygl o amharu ar gadwyni cyflenwi ynni”, meddai.
“Trwy gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn lleol, gall y cyngor leihau dibyniaeth ar ddarparwyr ynni allanol, gan sefydlogi costau ynni dros amser o bosibl.
“Gall buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy lleol ymgysylltu â’r gymuned, codi ymwybyddiaeth am ynni cynaliadwy, a meithrin ymdeimlad o falchder wrth gyfrannu at gynhyrchu ynni glân.
“Er y gall fod costau cychwynnol, gall buddsoddiadau ynni adnewyddadwy arwain at arbedion cost yn y tymor hir wrth i dechnoleg wella a chostau gweithredu leihau.
“Wrth i ynni byd-eang drawsnewid tuag at ynni adnewyddadwy, mae mabwysiadu ffynonellau adnewyddadwy lleol yn gosod y Cyngor mewn sefyllfa i addasu i dueddiadau a pholisïau ynni yn y dyfodol.”
Budd i Gymru
Nid yn unig Sir Gaerfyrddin fydd yn elwa, ond Cymru gyfan hefyd, yn ôl Aled Vaughan Owen, sy’n galw am ddatganoli asedau’r Goron i Gymru.
“Gallai datganoli asedau’r Goron i Gymru gael ei weld fel cam tuag at fwy o gydraddoldeb ymhlith gwledydd cyfansoddol y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Byddai’n caniatáu i Gymru gael mwy o reolaeth dros ei hadnoddau a’i chyllid, yn debyg i’r Alban a Gogledd Iwerddon.
“Gall hyn arwain at elw o gyfoeth naturiol ein gwlad yn cael ei fuddsoddi yng nghymunedau Cymru.
“Bydd hyn yn galluogi Cymru i flaenoriaethu’r hyn sy’n bwysig i ni, creu swyddi gwyrdd ac economi cynaliadwy, gwarchod ac adfer byd natur a sicrhau iechyd a llesiant trigolion a chymunedau’r wlad
“Yn hanesyddol, bu Cymru yn rhan bwysig o’r chwyldro diwydiannol, ond drwy ddefnyddio tywydd a thirwedd ein gwlad yn ddoeth a chadw’r elw yn ein cymunedau, heb os, gallwn chwarae rôl bwysig yn y chwyldro gwyrdd.”