Mae pleidiau Esquerra Republicana a’r Sosialwyr yng Nghatalwnia wedi cytuno ar destun drafft er mwyn hwyluso’r defnydd o Gatalaneg ac ieithoedd eraill Sbaen yn y senedd.

Byddai angen diwygio rheolau Cyngres Sbaen er mwyn gwireddu hynny, a phe bai’r gwelliant yn cael ei dderbyn, byddai modd siarad Catalaneg, Basgeg a Galiseg yng nghyfarfodydd llawn, pwyllgorau a chofnod ysgrifenedig y senedd.

Bydd yn rhaid i unrhyw gofnodion ysgrifenedig gynnwys fersiwn Sbaeneg hefyd.

Dydy’r Sosialwyr ddim wedi cadarnhau eu bod nhw wedi dod i gytundeb, ond mae Esquerra yn mynnu eu bod nhw.

Yn ôl arbenigwyr ieithyddol, bydd y cytundeb yn cynnig “gwerth addysgol arbennig” i drigolion y wlad ac yn sicrhau gweladwyedd yr ieithoedd er mwyn eu normaleiddio nhw.

Ond maen nhw’n rhoi croeso gofalus i’r newyddion hefyd, gan ddweud mai’r cam cyntaf yn unig yw hwn, a bod angen i’r holl weinyddiaeth fod yn “agored” i amlieithrwydd.