Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cynhadledd ‘Yr Hawl i Dai Digonol – Beth sy’n Bosib?’ ym mis Tachwedd.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Dachwedd 16 yn y Pierhead ym Mae Caerdydd, fel rhan o ymgyrch hirdymor y Gymdeithas am Ddeddf Eiddo i Gymru fyddai’n cadarnhau mewn cyfraith mai asedau cymdeithasol i ddarparu cartrefi i bobol, ac nid asedau ariannol ar gyfer buddsoddwyr, yw prif ddiben tai.

Y siaradwyr

Ymhlith y siaradwyr fydd rhai o arbenigwyr polisi tai amlycaf Ewrop, gan gynnwys Javier Buron Cuadrado a Sorcha Edwards.

Bu Javier Buron Cuadrado yn Bennaeth Tai Cyngor Dinas Barcelona ac yn brif bensaer Cynllun Hawl i Dai y ddinas, sydd wedi trawsnewid marchnad dai y ddinas i weithio er budd pobol leol ers 2007.

Sorcha Edwards yw Ysgrifennydd Cyffredinol Housing Europe, ffederasiwn tai cyhoeddus, cydweithredol a chymdeithasol Ewrop.

Mae’r ffederasiwn yn gyfrifol am 25m eiddo yn Ewrop, sy’n cyfateb i 11% o stoc tai’r cyfandir, ac mae gan y ffederasiwn weledigaeth ar gyfer cartrefi fforddiadwy o safon ym mhob cymuned.

Bydd modd i’r rheiny sy’n mynd i’r gynhadledd ddysgu mwy am yr hyn sydd wedi’i gyflawni yn Ewrop, a beth sy’n bosib yng Nghymru er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng tai.

Bydd y gynhadledd yn cael ei noddi gan Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionydd, a John Griffiths, yr Aelod Llafur o’r Senedd dros Ddwyrain Casnewydd.

‘Adeg dyngedfenol ar gyfer polisi tai yng Nghymru’

“Fe ddaw’r gynhadledd hon ar adeg dyngedfennol ar gyfer polisi tai yng Nghymru; mae’r angen i weithredu o ddifri ac ar frys yn glir ac mae’r Llywodraeth wrthi’n paratoi cynigion ar gyfer Papur Gwyn ar yr Hawl i Dai Digonol,” meddai Robat Idris, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Mae’n amlwg bellach bod y farchnad eiddo agored wedi methu: mae cartref, i’w brynu neu ei rentu, y tu hwnt i gyrraedd rhywun ar gyflog lleol ac mae rhestrau aros ar gyfer tai cymdeithasol yn cynyddu tra bod mwy a mwy o dai yn ein cymunedau yn dai gwyliau neu ail dai.

“Mae angen Deddf Eiddo fydd yn dylanwadu ar y farchnad a’i siapio i gyflawni ei dyletswydd cymdeithasol.

“Bydd y gynhadledd yn gyfle i lunwyr polisi cenedlaethol a lleol, sefydliadau tai, grwpiau diddordeb ac ymgyrchwyr weld beth sydd yn bosib ei gyflawni gydag ewyllys gwleidyddol, a beth sydd eisioes wedi’i gyflawni ar hyd a lled Ewrop.

“Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i gyhoeddi Papur Gwyn ar yr Hawl i Dai Digonol a Rhentu Teg yn y tymor Seneddol hwn, a mawr obeithiwn y bydd cynnwys y gynhadledd yn dylanwadu ar y papur hwnnw.”