Gallai safle fferm yn Abersoch gael ei ddymchwel er mwyn creu lle ar gyfer unedau gwyliau.
Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cais llawn yn galw am ddymchwel tri thŷ ac adeiladau allanol presennol, er mwyn creu lle i saith eiddo gwyliau.
Byddai’r cynlluniau ar gyfer Fferm Cim ym Mwlchtocyn ym Mhen Llŷn hefyd yn gweld carafan statig bresennol yn cael ei symud a’i hadnewyddu at ddibenion gwyliau.
Mae’r cynlluniau, gafodd eu cyflwyno gan Mark Roberts o Harold Roberts a’i Fab Cyf, yn ymwneud â thri eiddo – Cim, Cim Canol a Chim Bach – ynghyd â thir ac adeiladau ar Fferm Cim.
Datganiad
Mae datganiad yn disgrifio’r eiddo fel “preswylfeydd marchnad agored sy’n sefyll ar eu pennau eu hunain” sydd wedi cael eu defnyddio ar gyfer llety gwyliau.
Dywed y ddogfen eu bod nhw’n “breswylfeydd sylweddol sydd ynghlwm wrth ei gilydd”.
Mae gan bob eiddo bum ystafell wely, ac mae’r safle hefyd yn cynnwys pedair sied i’r gogledd-ddwyrain o’r ffermdai sy’n cael eu defnyddio i stori carafanau symudol a charafan statig ger y siediau presennol sy’n cael eu defnyddio at ddibenion gwyliau.
Mae adeilad carreg allanol “eisoes yn elwa ar ganiatâd cynllunio i’w drosi’n uned wyliau sydd wedi cael ei chyflwyno”, yn ôl y cynlluniau.
Ar ôl dymchwel y tri eiddo, byddai tair preswylfa’n cael eu hadeiladu i’w disodli.
Bydden nhw yn yr un lleoliad, gan ddarparu pedair ystafell wely yr un.
Yng ngogledd-ddwyrain y safle yn y cais, byddai’r pedair sied storio’n cael eu dymchwel ac yn cael ei disodli gan bedair uned wyliau newydd, gyda’r garafan statig bresennol yn cael ei symud a’i disodli gan un fwy cyfoes.
Byddai pob uned wyliau newydd yn rhai deulawr o ran uchder, ac yn darparu tair ystafell wely.
Bydd ffordd newydd ar gyfer mynedfa hefyd yn cael ei hadeiladu er mwyn gwasanaethu’r beudy sydd wedi’i drosi, ac mae caniatâd cynllunio wedi’i warchod ar gyfer hwnnw, yn ôl y cynlluniau.
“Mae gofod ar gyfer 48 gwely ar safleoedd Cim, Cim Canol a Chim Bach ar hyn o bryd… ac wrth ailddatblygu’r safle, byddai gofod ar gyfer cyfanswm o 48 gwely hefyd yn cael ei ddarparu, sy’n golygu na fyddai newid yn nifer y gofodau ar gyfer gwlâu.”
Mae’r cynnig hefyd yn nodi y byddai’r safle’n cael ei ddatblygu a’i redeg gan fusnes teulu lleol sy’n rhedeg ystod o safleoedd llety twristaidd ym Mhen Llŷn ac ar draws Gwynedd, gan gyflogi pobol leol.