Bydd cynllun Bwrsariaeth Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol Cymru yn cael ei ymestyn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024-2025.

Daeth y cyhoeddiad gan y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan.

Y gobaith yw cryfhau’r cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr gofal iechyd yn sgil yr argyfwng costau byw, a galluogi myfyrwyr i gynllunio â sicrwydd ar gyfer y dyfodol.

Bydd myfyrwyr sy’n derbyn y Fwrsariaeth hefyd yn cael mynediad at fenthyciad cynhaliaeth llawn Cyllid Myfyrwyr Cymru os ydyn nhw’n dymuno.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer yr arian, mae’n rhaid i fyfyrwyr nyrsio, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio.

Caiff myfyrwyr meddygaeth a deintyddiaeth fynediad at y benthyciad cynhaliaeth lawn lle bynnag maen nhw’n astudio yn y Deyrnas Unedig, cyn belled â’u bod yn byw yng Nghymru fel arfer.

‘Brwydro caledi ariannol’

Dywed Eluned Morgan ei bod hi’n gobeithio y bydd sicrhau dyfodol y fwrsariaeth yn helpu i bortreadu gofal iechyd fel maes deniadol.

“Dyna pam rydyn ni’n parhau i fuddsoddi yn hyfforddiant y nyrsys, y bydwragedd a’r gweithwyr proffesiynol ymroddedig hynod fedrus eraill sy’n gweithio yn ein Gwasanaeth Iechyd,” meddai.

“Mae’r fwrsariaeth hon wedi helpu cymaint o bobol i gymhwyso a gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd, gan gryfhau ein gweithlu.

“Bydd mynediad at swm llawn y benthyciad cynhaliaeth hefyd yn helpu’r rhai sy’n dechrau ar eu teithiau gofal iechyd, meddygol a deintyddol i frwydro yn erbyn caledi ariannol ac iechyd meddwl gwael yng nghanol yr argyfwng costau byw parhaus.”

Hyfforddi a chadw’r gweithlu

Mae’r Gweinidog Addysg Jeremy Miles hefyd wedi croesawu’r estyniad.

Dywed fod cefnogi myfyrwyr gofal iechyd yn ystod yr argyfwng costau byw yn hanfodol er mwyn hyfforddi a chadw’r gweithlu meddygol yng Nghymru.

“Dyna pam rydym yn darparu cyllid i alluogi myfyrwyr Bwrsariaeth y Gwasanaeth Iechyd i gael gafael ar y benthyciad cynhaliaeth lawn, gan sicrhau nad yw caledi ariannol yn ffactor wrth atal myfyrwyr rhag astudio yma,” meddai.

Dywed Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru, ei bod hi wrth ei bodd â’r cyhoeddiad sy’n dangos “ymrwymiad clir i sicrhau cynaliadwyedd gweithlu’r Gwasanaeth Iechyd yn y dyfodol.”