Mae disgwyl i ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gynyddu premiwm treth y cyngor ar ail gartrefi a thai gwag yng Ngheredigion gael ei gymeradwyo gan uwch gynghorwyr yr wythnos nesaf.

Mae gan un o drefi glan môr y sir gyfradd ail gartrefi o fwy na 25% o’r holl eiddo, yn ôl ffigurau’r Cyngor.

Ar hyn o bryd, mae gan Geredigion bremiwm o 25% ar ail gartrefi ac eiddo gwag, tra bod gan siroedd cyfagos gyfraddau uwch – 100% yn Sir Benfro, 50% yn Sir Gaerfyrddin a 75% ym Mhowys.

Mae rheolau treth newydd Llywodraeth Cymru bellach yn caniatáu i awdurdodau lleol gasglu premiwm treth y cyngor o hyd at 300% ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.

Bydd adroddiad gerbron aelodau Cabinet Ceredigion, fydd yn cyfarfod ar Fedi 5, yn ystyried y dull fyddai ei angen pe bai’r Cyngor yn dymuno newid lefel premiwm treth y cyngor.

Beth yw’r sefyllfa?

Ar gyfer cyllideb 2023-24, roedd 33,856 o eiddo yng Ngheredigion lle’r oedd modd codi treth – 1,697 ohonyn nhw’n ail gartrefi a 592 yn eiddo gwag, gyda’r ddau ddosbarth yn cyfateb i 6.8% o’r holl eiddo.

Roedd yr ardaloedd â’r gyfradd uchaf o ail gartrefi yn y sir yn rhai arfordirol ar y cyfan, gyda’r gyfradd uchaf yng Ngheinewydd (27.2%), Llangrannog (17.1%), Y Borth (14.1%), Pontarfynach (11%), Penbryn (9.6%), Aberaeron (9.1%) ac Aberporth (8.4%).

Roedd nifer yr eiddo gwag hirdymor ar ei huchaf mewn ardaloedd mwy trefol – Aberporth (2.2%), Aberystwyth (1.8%), Aberteifi a Llandysul (1.5%).

Newid cyfraddau’r dreth

Dywed adroddiad ar gyfer aelodau’r Cabinet fod rhaid i’r Cyngor llawn wneud unrhyw newid i lefel premiwm y dreth gyngor, a byddai angen cymeradwyaeth cyn Rhagfyr 31 er mwyn bod yn weithredol yn ystod y flwyddyn ariannol ganlynol.

“Mae’n bwysig fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ymgysylltu ac ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol,” medd yr adroddiad.

“Bydd hyn yn cynnwys yr etholaeth ehangach (trigolion a busnesau) a’r rheiny sy’n cael eu heffeithio ar hyn o bryd gan y premiwm o 25%.

“Y cynnig, felly, yw fod ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol yn cael ei lansio, fydd yn para o leiaf chwe wythnos yn ystod Medi a Hydref.

“Gall premiwm treth y cyngor fod yn bwnc emosiynol, yn ogystal â bod agweddau technegol iddo hefyd.

“Y cynnig, felly, yw sefydlu gweithgor trawsbleidiol gwleidyddol gytbwys o aelodau i ddarparu fforwm i dderbyn rhagor o bapurau ymchwil, modelu, adroddiad ar ymatebion i’r ymgynghoriad maes o law, a chefnogi trafodaethau manwl ar unrhyw newidiadau posib cyn ystyriaeth bellach gan y Cabinet ac wedyn y Cyngor llawn yn y pen draw os daw cynnig i newid lefel bresennol premiwm treth y cyngor.”

Ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol

Yr argymhelliad yw y dylai aelodau gychwyn ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol, gyda’r amodau a’r gweithdrefnau’n unol â’r hyn sydd wedi’i amlinellu yn yr adroddiad.

Daeth ymgynghoriad tebyg i ben yn Sir Benfro yn ddiweddar, ac mae disgwyl i ganlyniadau hwnnw gael eu hystyried yn ddiweddarach.

Mae gan rannau o Sir Benfro gyfraddau ail gartrefi llawer uwch na’r ffigurau sydd wedi’u cyflwyno ar gyfer Ceredigion.

Roedd gwybodaeth gafodd ei chyhoeddi’n ddiweddar gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dangos y cyfraddau ail gartrefi canlynol: Dinbych-y-Pysgod (28.07%), Saundersfoot (29.35%), Tyddewi (20.86%) a Threfdraeth (30.6%).

Ar frig y rhestr o gryn dipyn roedd Nolton Haven (60%) a Little Haven (62.96%).