Er ei bod hi’n Ddiwrnod Galar Cenedlaethol yr wythnos hon (dydd Mercher, Awst 30), mae cwnselydd sydd wedi profi galar yn ei bywyd ei hun yn pwysleisio wrth golwg360 ei bod hi’n bwysig fod y gymdeithas yn gwybod sut i gefnogi rhywun sy’n galaru bob dydd.

Dydy galar ddim yn effeithio ar bawb yr un fath, gan ein bod i gyd yn ymateb fel unigolion ac yn uniaethu â phobol mewn amrywiol ffyrdd.

Gall pa mor hir rydym yn galaru amrywio o un person i’r llall hefyd.

Weithiau mae’n bosib profi teimladau sydd ddim yn gyffyrddus, neu fferru’r boen, ac mae cwnsela yn un ffordd bosib o ymdrin â’r teimladau yma wrth siarad yn agored â dieithryn.

Yn ôl Caryl Hughes, sy’n gweithio fel cwnselydd yn llawrydd yn Llundain, mae pobol yn aml yn teimlo ofn yn y gymdeithas wrth siarad am alar, ond mae hi’n dweud ei bod hi’n bwysig fod pobol yn cefnogi ei gilydd.

Ar ôl iddi golli ei thad, roedd hi’n teimlo ei bod hi eisiau mynegi ei theimladau.

Ond “ar ôl i rywun golli rhywun, yn aml mae pobol yn y gymdeithas yn ‘cau siarad am y peth”, meddai wrth golwg360.

“Mae o fel rhyw dabŵ.

“Mae’n bwysig i ni fel cymdeithas wybod sut i siarad efo rhywun am farwolaeth a cholled.

“Er enghraifft, pan wnes i golli fy nhad, roeddwn yn sylweddoli fod pobol ddim eisiau siarad am fy ngalar i, am fy ngholled i.

“Roedd hynny yn medru brifo yn ofnadwy.

“Roeddwn eisiau siarad am dad.

“Mae’n bwysig medru dweud rhywbeth i ddechrau’r sgwrs am golled, a jest gadael i’r person yna sy’n galaru wybod bo chdi yna iddyn nhw, tsiecio mewn a mynd, “Gwranda, dw i yma i chdi os wyt ti angen rhywbeth”.

“Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig i ni fel cymdeithas wybod sut i gefnogi rhywun sydd yn galaru.

“Oherwydd ei fod yn gymaint o dabŵ, dydyn ddim eisiau siarad am y peth ond mae’n rhan mor naturiol o fywyd.”

Effaith galar

Mae galar yn effeithio ar bobol mewn gwahanol ffyrdd gan ein bod i gyd yn wahanol, ac mae ein perthynas ag anwyliaid fu farw’n gallu amrywio’n sylweddol hefyd.

“Mae’n dibynnu ar natur y berthynas sydd gennym ni efo’r person sydd wedi marw,” meddai Caryl Hughes.

“Mae’n dibynnu arnon ni fel pobol, sut bobol ydyn ni, sut rydyn ni’n ymdrin â’n teimladau.

“Mae’n dibynnu’n llwyr ar y person ydyn ni, pwy rydym wedi’u colli, a’r sefyllfa a sut rydym wedi colli’r person yna.”

Beth yw galar a sut mae’n effeithio ar bobol?

Yn ôl yr elusen Mind, mae profedigaeth a galar yn effeithio ar bawb mewn ffyrdd gwahanol, ac mae’n bosibl profi unrhyw amrediad o emosiynau.

Mae’n bwysig cofio nad oes ffordd gywir neu anghywir o deimlo.

Mae galaru’n blino rhywun yn emosiynol ac yn gorfforol.

Mae’n bosib profi teimladau sydd bron yn annioddefol o boenus o ganlyniad i golled, yn ogystal â thristwch ac unigrwydd.

Ar adegau, mae’n bosib y bydd rhywun yn cynhyrfu ac yn methu canolbwyntio nac ymlacio, ac ar adegau eraill bydd yna ddiffyg egni a blinder ofnadwy neu deimlo’n sigledig, yn sâl neu’n anhwylus.

Mae cael trafferth cysgu yn eithaf cyffredin hefyd yn dilyn profedigaeth.

Efallai bod yna bryderon am sut fydd rhywun yn ymdopi heb y person sydd wedi marw, a gall y byd deimlo’n lle anniogel iawn yn sydyn.

Mae rhai pobol yn teimlo fel bod angen llefain ac yn llefain llawer yn dilyn profedigaeth, tra bydd eraill yn wylo mewn pyliau sydyn, dwys ac afreolus.

Mae rhai pobol yn ei chael hi’n anodd llefain, neu’n teimlo eu bod nhw tu hwnt i lefain.

Mae nifer o ffyrdd eraill o ymateb sy’n gyffredin ond sy’n fwy dryslyd, efallai, megis:

  • anghrediniaeth
  • dicter
  • euogrwydd
  • rhyw fath o ryddhad

Ond mae’n bwysig peidio disgwyl gormod yn rhy gyflym.

Mae galaru’n broses sy’n cymryd amser, ac mae’n gallu bod yn broses flinedig hefyd.

Cwnsela

A hithau’n gwnselydd, mae Caryl Hughes yn credu bod cwnsela’n cynnig lle diogel i ymdrin â theimladau o alar.

Weithiau, mae’n well gan bobol siarad am deimladau personol iawn ac anghyffyrddus gyda dieithryn yn lle rhywun maen nhw’n ei adnabod.

“Dydyn ni ddim yn gallu cymharu galar wrth golli partner gyda cholli tad neu golli chwaer.

“Does dim un yn waeth na’n well na’i gilydd.

“Mae’n dibynnu’n hollol ar natur y berthynas sydd gennyt ti efo’r person roeddet yn eu caru.

“Mae cwnsela, rwy’n credu, yn medru helpu i brosesu’r teimladau yna sydd gennyt ti, mewn awyrgylch broffesiynol saff.

“Beth ydy cwnsela? Mae’n cynnig cyfle i deimlo mewn i boen y golled.

“Yn wythnosol fel arfer, mae’n cynnig lle i chdi ddod i siarad am y boen yna.

“Mae’n medru bod yn llesol i siarad efo dieithryn am ein galar ni, efo cwnselydd, ac adnabod teimladau efallai sy’n medru bod yn gymhleth.

“Efallai bod yna deimladau anghyffyrddus am y golled, efallai bod yna deimlad o ryddhad fod y person wedi marw.

“Yn aml, os ydyn nhw wedi bod yn ofnadwy o wael â gwaeledd hir, mae hynny’n dod â theimladau cymhleth yn ei sgil – euogrwydd yn aml.

“Mae’n medru bod yn llesol peidio siarad efo aelod o deulu.

“Dyna ydy cwnselydd, rhywun sydd ddim yn dy adnabod di yn bersonol, a bo chdi’n siarad efo nhw yn wythnosol.”

Fferru’r boen

Yn ôl Caryl Hughes, mae pobol yn gallu gwneud pethau sydd ddim yn iach er mwyn lleihau poen y golled, tra bod cwnsela yn helpu pobol i deimlo’r golled mewn ffordd sy’n cael ei rheoli.

“Yn aml, ar ôl colli rhywun sy’n annwyl i ni, rydym yn trio osgoi’r boen drwy wneud rhywbeth sy’n ein harbed ni rhag teimlo.

“Er enghraifft, mi fedrwn ni weithio’n rhy galed, neu oryfed neu orfwyta, rhywbeth i numb-io’r boen mewn rhyw ffordd,” meddai.

“Mae cael sesiynau cwnsela’n gyfle i ni jest dipio mewn i’r boen, fel bo ni’n cael y cydbwysedd yna rhwng teimlo’r golled a gwneud pethau sy’n ein helpu ni i ymdopi efo bywyd o ddydd i ddydd ar ôl y golled.”

Llinell amser galar

Mae galar yn gallu mynd a dod fel tonnau’r môr, ac weithiau does dim terfyn amser i alaru.

“Yn aml, rydym yn disgwyl i rywun deimlo’n well neu deimlo eu hunain, teimlo’n well ar ôl cyfnod o amser, er enghraifft chwe mis,” meddai Caryl Hughes.

“Dydy galar ddim yn gweithio fel’na.

“Fedrwn ni fod dal yn galaru yn ddwfn flynyddoedd ar ôl y golled.

“Does dim synnwyr i’r galaru, dyna sy’n anodd oherwydd does dim patrwm.

“Mae fel tonnau yn dod drosom ni.

“Dyna sy’n anodd – gwybod sut i ymdrin â hynna ar ôl colli rhywun.”