Mae cyfoeth enfawr Ystâd y Goron – £853m – ochr yn ochr â thlodi yn y gymdeithas ehangach yn cryfhau’r achos dros ddatganoli asedau Cymreig, yn ôl Plaid Cymru.
Yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd y Blaid yn San Steffan, mae’n arwydd o’r “annhegwch” sydd wrth galon y Deyrnas Unedig.
Cafodd y ffigwr swmpus ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23 ei ddatgelu trwy Gais Rhyddid Gwybodaeth.
Mae Ystâd y Goron yn cwmpasu portffolio eang o dir ac asedau’r Brenin Charles III.
Caiff elw net ei ddargyfeirio i’r Trysorlys, sy’n pennu canran o’r arian i’w ddargyfeirio yn ôl i’r brenin ar gyfer dyletswyddau swyddogol.
Mae’r 25% presennol yn cynnwys 10% ychwanegol ar gyfer adnewyddu Palas Buckingham, ond fe fydd yn gostwng i 12% o ganlyniad i incwm cynyddol prosiectau ffermydd gwynt pell o’r lan, gan roi hwb sylweddol i elw Ystâd y Goron.
Fe fu Liz Saville Roberts yn galw ers tro am ailfuddsoddi elw o gynyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru yng nghymunedau Cymru, yn hytrach na’i fod yn mynd i goffrau’r Trysorlys.
Gydag Ystâd y Goron wedi’i datganoli i’r Alban ers 2017, fe fu Plaid Cymru’n galw am yr un pwerau i Gymru.
Cafodd Mesur Liz Saville Roberts i sicrhau’r pwerau gefnogaeth drawsbleidiol yn ystod cyfnod seneddol 2021-22, ac fe lwyddodd Plaid Cymru i gynnwys y mater yn y Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Lafur Cymru.
Ond mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wedi wfftio’r galwadau hyd yn hyn.
‘Annhegwch’
“Mae cyfoeth cynyddol asedau Cymreig Ystâd y Goron yng nghanol tlodi cynyddol yn ein hatgoffa o’r annhegwch sydd wrth wraidd y Deyrnas Unedig,” meddai Liz Saville Roberts.
“Gallai’r elw sy’n deillio o’r asedau hyn, sy’n werth £853m, danio chwyldro diwydiannol gwyrdd Cymreig.
“Yn hytrach, caiff enillion eu hailgyfeirio i Drysorlys y Deyrnas Unedig, gyda chyfran yn cael ei rhoi yn uniongyrchol i’r Teulu Brenhinol.
“Mae hwn yn fater amgylcheddol yn bennaf oll.
“Byddai datganoli pwerau dros reoli Ystâd y Goron yn cryfhau ein hymdrechion yng Nghymru i gyrraedd sero-net trwy integreiddio polisi ynni gyda’n cynllun Sero Net Cymru.
“Gallai ailfuddsoddi elw yng Nghymru greu miloedd o swyddi gwyrdd sy’n talu’n dda, gan helpu i fynd i’r afael â phroblemau parhaus cyflogau isel ac ansicrwydd swyddi.
“Mae hefyd yn fater o degwch.
“Mae San Steffan yn cydnabod y dylai Llywodraeth yr Alban reoli Ystâd y Goron yr Alban a datganoli’r pwerau hynny ’nôl yn 2017.
“Os yw’n ddigon da i’r Alban, pam ddim Cymru?
“Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro mai pobol Cymru ddylai allu penderfynu ar y ffordd orau o elwa o gyfle economaidd ynni adnewyddadwy, nid San Steffan.
“Mae’r ffigurau newydd hyn yn cryfhau ein dadl ymhellach.”