Y flwyddyn nesaf, bydd y cyn-Aelod Seneddol Dafydd Wigley yn nodi 50 mlynedd ers cael ei ethol i San Steffan am y tro cyntaf.
Er mwyn nodi’r hanner canmlwyddiant, bydd yn cynnal cyfres o sgyrsiau, gan gynnwys un yng Nghaernarfon wythnos nesaf (nos Wener, Medi 8).
Ar Chwefror 28, 1974, cafodd Dafydd Wigley ei ethol yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru dros etholaeth Caernarfon, gan gipio’r sedd gan Goronwy Roberts, fu’n Aelod Seneddol Llafur ers 1945.
Enillodd y sedd gan adeiladu ar lwyddiant Robyn Léwis, ymgeisydd Plaid Cymru yn 1970.
Mewn pum etholiad cyffredinol yn olynol, llwyddodd i gynyddu nifer y pleidleisiau, cyfran y bleidlais a’i fwyafrif – yr unig Aelod Seneddol o unrhyw blaid yng ngwledydd Prydain i gyflawni’r fath gamp yn yr ugeinfed ganrif.
Aeth yn ei flaen i gynrychioli’r etholaeth tan Etholiad Cyffredinol 2001, ac erbyn hynny daeth yn Aelod cyntaf Caernarfon yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Ymddeolodd yn 2003, a daeth yn Aelod o Dŷ’r Arglwyddi yn 2011.
Bu hefyd yn arweinydd ar Blaid Cymru ddwywaith – rhwng 1981 a 1984 ac eto rhwng 1991 a 2000 – ac yn dilyn marwolaeth Gwynfor Evans, cafodd ei ethol yn Llywydd Anrhydeddus Plaid Cymru.
Ar ôl ymddeol o faes gwleidyddiaeth, bu’n gadeirydd Bwrdd Ysgol Busnes Prifysgol Bangor am wyth mlynedd, ac yn Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Hanner canrif “gythryblus”
“Mae wedi bod yn 50 mlynedd gythryblus, o fethiant refferendwm datganoli 1979 i’r ymgyrch lwyddiannus yn 1997,” meddai Dafydd Wigley cyn y digwyddiad yn Galeri yng Nghaernarfon.
“Ar lefel genedlaethol roedd yr etholiadau cyntaf i’n senedd genedlaethol ym 1999 yn benllanw degawdau o ymgyrchu caled ac yn garreg filltir bwysig i Blaid Cymru.
“Yn Nhŷ’r Cyffredin, roeddwn yn ymroddedig i ymgyrchu dros hawliau pobl anabl, yn cynnwys llywio’r Ddeddf Pobl Anabl i’r llyfr statud yn 1981.
“Ar lefel fwy lleol, mae tri digwyddiad diwydiannol yn aros yn y cof: yr ymgyrch lwyddiannus am iawndal niwmoconiosis i chwarelwyr, streic Friction Dynamics, ac agor ffatri Euro-DPC yn Llanberis, sydd bellach yn rhan o Siemens Healthineers.
“Rwy’n edrych ymlaen at drafod y cerrig milltir hyn mewn digwyddiad yng Nghaernarfon yn fuan.”
Bydd ‘Hanner Canrif Wigley’ yn cael ei gynnal yn Galeri am 7 o’r gloch nos Wener, Medi 8, gyda mynediad yn rhad ac am ddim.