Bydd ymgynghoriad diweddar ar newid rheolau treth, allai weld cyfradd treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi’n treblu yn y dyfodol, yn cael ei drafod gan uwch gynghorwyr fis nesaf.

Mae rheolau trethi lleol gafodd eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru’n gynharach eleni yn golygu bod modd i awdurdodau lleol osod a chasglu premiwm treth y cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor o hyd at 300%.

Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir Penfro’n gweithredu premiwm treth y cyngor o 100% ar gyfer ail gartrefi, ar ôl cyflwyno premiwm treth y cyngor o 50% ar ail gartrefi yn 2017.

Cafodd premiwm ar gyfer eiddo gwag hirdymor yn y sir ei gyflwyno yn 2019, ar gyfer eiddo fu’n wag ers tair blynedd neu fwy.

Ymgynghoriad

Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ar unrhyw newidiadau posib ei lansio’n gynharach eleni, gan ddod i ben fis diwethaf.

Ceisiodd yr ymgynghoriad safbwyntiau ynghylch:

  • y premiwm treth y cyngor presennol ar gyfer ail gartrefi
  • y premiwm treth y cyngor presennol ar gyfer eiddo gwag hirdymor
  • a ddylai’r Cyngor ddefnyddio disgresiwn yn dilyn diwygiadau Llywodraeth Cymru i’r trothwy ar lety gwyliau hunanarlwyo

Dangosodd gwybodaeth gafodd ei chyhoeddi gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ddiweddar fod mwy na 60% o eiddo mewn rhai rhannau o’r sir yn ail gartrefi.

Ar gyfer y prif ganolfannau ymgartrefu o fewn y parc cenedlaethol, roedd y cyfraddau ail gartrefi fel a ganlyn: Dinbych y Pysgod (28.07%), Saundersfoot (29.35%), Tyddewi (20.86%) a Threfdraeth (30.6%).

Ar gyfer cymunedau llai o fewn y parc cenedlaethol, roedd rhai o’r ffigurau hyd yn oed yn uwch.

Ar frig y rhestr o bell ffordd roedd Nolton Haven (60%) a Little Haven (62.96%).

Newidiadau eraill

Roedd y newidiadau diweddar i reolau Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnwys dosbarthiadau defnydd cynllunio newydd a gallu awdurdodau lleol i wneud newidiadau lleol i’r system gynllunio, lle bo ganddyn nhw dystiolaeth.

Mae’r meini prawf i lety gwyliau gael bod yn atebol am gyfraddau annomestig yn lle treth y cyngor hefyd wedi cael eu cryfhau.

Bydd Cabinet Cyngor Sir Penfro bellach yn ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad yn eu cyfarfod ar Hydref 2, gyda phenderfyniad terfynol ar yr opsiynau – sy’n amrywio hyd at 300% – yn cael ei wneud yn eu cyfarfod ar Hydref 12.

Mae disgwyl i Gabinet Cyngor Ceredigion gerllaw gymeradwyo cais am ymgynghoriad tebyg yn eu cyfarfod ar Fedi 5.