Dros yr wythnos ddiwethaf, daeth sawl stori i’r amlwg am bobl leol yn taro’n ôl yn erbyn y modd mae gor-dwristiaeth yn difetha eu cymunedau a’u cynefinoedd.
Yn nhref fach Hallstadt yn ardal Salzkammergut yng nghanol Awstria, llwyddodd trigolion lleol i gau’r brif dwnel yno am gyfnod ddydd Sul. Roedden nhw’n galw ar gyfyngu ar y nifer o ymwelwyr dydd, ac am wahardd bysiau ymwelwyr yno gyda’r nosau. Er eu bod yn cydnabod cyfraniad twristiaeth ar yr economi leol eu dadl nhw ydi bod gormod o ymwelwyr yn difa naws y lle ac ansawdd byw pobol leol.
Yng Nghernyw, lle mae cerbydau 4X4 drudfawr yn mynd yn bla cynyddol mewn aml i bentref glan-môr, bu protestwyr yn gollwng gwynt o deiars 80 o’r cerbydau hyn yn ardal Falmouth a St Mawes nos Fawrth a bore Mercher.
Yn Ardal y Llynnoedd, bydd cynllun i ddatblygu hen chwarel lechi Elterwater yn nyffryn Langdale yn barc antur gyda gwifrau gwib yn cael eu trafod gan yr awdurdod cynllunio lleol yr wythnos nesaf. Mae’r cynllun eisoes wedi ennyn gwrthwynebiad lleol yn ogystal â chorff rhyngwladol sy’n cynghori Unesco ar safleoedd treftadaeth byd – statws a ddyfarnwyd i Ardal y Llynnoedd yn 2017. Yn ôl y Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd (Icomos) byddai’r cynllun “yn trawsnewid y chwarel yn barc thema ac yn bychanu’r profiad o agwedd bwysig o dreftadaeth Ardal y Llynnoedd.” Drwy ddefnyddio safle o’r fath ar gyfer “twristiaeth antur” yn lle “dehongli treftadaeth ddiwylliannol”, meddai, byddai’n denu “math o gynulleidfa a fydd yn cyfrannu at darfu ar ei naws heddychlon a thawel”.
Gyda thwristiaeth antur yn prysur fynd yn rhemp yn Eryri, da fyddai cael barn y sefydliad rhyngwladol hwn ar yr hyn sy’n digwydd yma – yn enwedig wrth ystyried statws Unesco ardaloedd y chwareli. Byddai’n gywilydd inni pe bai pobl Ardal y Llynnoedd yn dangos mwy o barch at eu treftadaeth nag ydan ni – yn enwedig pan gofiwn fod gynnon ni gymaint mwy yn y fantol.
Efallai nad ydi Cymru wedi cael ei goresgyn â llawn cymaint o dwristiaid yr haf yma ac ambell i haf diweddar. Eto i gyd, mae llawer o’n pentrefi, ein traethau a’n mynyddoedd mwyaf poblogaidd wedi bod o dan warchae ar yr adegau prysuraf.
Er mai cymharol dawedog ydan ni wedi bod ynghylch gor-dwristiaeth yng Nghymru hyd yn hyn, does dim amheuaeth fod cryn ddicter o dan yr wyneb at y ffordd mae ein ardaloedd hyfrytaf yn cael eu hanrheithio. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae’n lleisiau’n cael eu boddi’n rhy aml gan lobi nerthol a dylanwadol ar ran busnesau twristaidd.
Twristiaeth gynaliadwy
Pe bai gynnon ni ddiwydiant twristaidd cynaliadwy, un o’i brif flaenoriaethau fyddai diogelu ein hunaniaeth a’n treftadaeth a’n hamgylchedd fel rhan allweddol o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig. Mewn sefyllfa o’r fath, byddai busnesau twristaidd yn cyfrannu’n adeiladol at ein heconomi a’n cymdeithas. Mi fydden nhw hefyd yn derbyn bod angen rheolaeth dynn i warchod ein hardaloedd rhag gor-dwristiaeth – gan fod hynny’n hanfodol er mwyn cadw busnesau mewn dwylo lleol rhag syrthio i gwmnïau mawr.
Yn lle hynny, mae’n ymddangos bod yn well gan leisiau uchaf y diwydiant ganolbwyntio eu sylw ar wrthwynebu treth ar dwristiaid yn hytrach nag ar gyfrannu at drafodaeth adeiladol ar y ffordd orau o ddatblygu’r diwydiant.
Cafwyd cyfraniad digon adeiladol gan Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan mewn adroddiad diweddar, sy’n dadlau’r angen am hunaniaeth gref wrth farchnata Cymru fel cyrchfan i ymwelwyr tramor. Roedd yr adroddiad hwnnw hefyd yn cydnabod yr angen i roi mwy o sylw i fyd natur, hanes, chwedloniaeth ac i’r Gymraeg.
Yr hyn sy’n rhaid i’r gwleidyddion hyn ei ddeall fodd bynnag ydi na ellir cryfhau hunaniaeth Cymru fel cyrchfan i ymwelwyr tramor cyn mynd i’r afael â’r ffordd mae gor-dwristiaeth yn cyfrannu at ddifa’r hunaniaeth hwnnw ar hyn o bryd.
Does dim gobaith chwaith tynnu sylw at yr hyn sy’n gwneud Cymru’n wahanol os bydd yn dal i gael ei marchnata yn Lloegr fel lle ar gyfer staycation. Yr hyn mae’r gair yma’n ei gyfleu ydi mai aros yn eu gwlad eu hunain mae Saeson wrth ddod i Gymru ar wyliau – mewn geiriau eraill mai atodiad bach i Loegr ydi Cymru. Ac wrth atgyfnerthu syniad o’r fath, cam bach wedyn ydi i Saeson feddwl mai rhan o’u gwlad eu hunain ydi ‘Snowdonia’, ‘Abbasock’ neu ‘the Kleen’. Does dim amheuaeth mai’r math hwn o dwristiaeth ydi un o’r bygythiadau mwyaf i ddyfodol yr iaith a’r diwylliant Cymraeg, ac yn wir i ddyfodol hunaniaeth Cymru.
Un o leisiau blaenllaw’r diwydiant yng Nghymru ar hyn o bryd ydi mudiad sy’n galw ei hun yn Gymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru, neu WAVA. Does dim gair am ddiogelu hunaniaeth nac amgylchedd Cymru yn eu rhestr o nodau ac amcanion ar eu gwefan. Maen nhw wedi bod ymhlith y rhai uchaf eu cloch yn dadlau yn erbyn treth dwristaidd yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae eu Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus ac Ysgrifennydd Aelodaeth wedi mynd cyn belled â chyhuddo Llywodraeth Cymru o fod yn wrth-Seisnig o’r herwydd.
Un arall sydd wedi cael sylw yn y wasg am ei wrthwynebiad i dreth dwristiaeth ydi perchen tai gwyliau yn Sir Benfro sydd hefyd yn gyflwynydd teledu, Griff Rhys Jones (deallaf ei fod yn gomedïwr o ryw fath ar un adeg). Mae’n honni y bydd treth o’r fath yn arwain at draethau gwag ar hyd a lled Cymru.
Rhaid holi pam fod neb yn barod i wrando ar ddadleuon mor wirion. Dydi pobl sydd â’u bryd ar werthu Cymru’n rhy rad ddim yn haeddu gronyn o barch.
Lle mae’r ardoll ymwelwyr?
Does dim lle dros gredu bod y lobïwyr hyn yn siarad dros neb ond nhw eu hunain yn eu gwrthwynebiad i dreth resymol ar ymwelwyr. Dangosodd ymgynghoriad cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru fod mwyafrif clir o blaid yr egwyddor y dylai ymwelwyr sy’n aros gyfrannu at les yr ardal maen nhw’n aros ynddi.
Ni fyddai cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer ardoll ymwelwyr yn gorfodi’r un awdurdod lleol i godi treth o’r fath – y cyfan y byddai’n ei wneud fyddai rhoi hawl iddyn nhw wneud hynny.
Byddai cynigion y Llywodraeth yn rhoi’r hawl i awdurdodau lleol godi refeniw ychwanegol i’w ailfuddsoddi mewn cymunedau lleol. Fel y dywed Llywodraeth Cymru ar ei gwefan: “Byddai hyn yn eu galluogi i fynd i’r afael â rhai o’r costau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth ac yn annog dull mwy cynaliadwy o weithredu”. Byddai ardoll o’r fath hefyd yn “creu refeniw ychwanegol i awdurdodau lleol ei ailfuddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus a’r seilwaith sy’n sicrhau bod twristiaeth yn llwyddo.”
Rhaid holi felly pam fod Llywodraeth Cymru fel pe baen nhw’n llusgo traed ar y mater – gan nad oes dim datganiad swyddogol wedi bod ar y mater ers diwedd mis Mawrth.
Mae’n wir na fyddai treth o’r fath yn datrys gor-dwristiaeth ynddi ei hun – ac nid dyna fyddai ei bwriad. Mae’r syniad y gallai ymwelwyr beidio â dod i Gymru oherwydd treth fach yn gwbl anghredadwy. Dyna pam nad ydi dadleuon y gwrthwynebwyr yn haeddu cael eu cymryd o ddifrif. Ar y llaw arall, byddai’r ardoll yn gam cyntaf at fynnu mwy o reolaeth leol o dwristiaeth, ac o sicrhau fod y diwydiant yn cyfrannu mwy at lesiant trigolion lleol. Gallai hefyd agor y drws at drafodaeth fwy aeddfed ar y graddau o dwristiaeth sy’n addas a chynaliadwy ar gyfer gwahanol ardaloedd.
Yn lle gadael i’r gwrthwynebwyr gael y sylw i gyd, mae’n bryd i ni fod yn rhoi pwysau ar y Llywodraeth i symud ymlaen ar fyrder gyda’u cynigion. Mae angen cynghreirio effeithiol rhwng mudiadau amgylcheddol ac ymgyrchwyr dros y Gymraeg er mwyn ffurfio lobi effeithiol i wrthbwyso lleisiau negyddol busnesau’r diwydiant.
Rywsut neu’i gilydd, rhaid mynnu bod y Llywodraeth yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth ar unwaith i roi’r ddarpariaeth ar gyfer y dreth hon ar waith cyn gynted â phosibl. Does dim esgus dros ragor o lusgo traed ar y mater.