Rhaid sicrhau bod gwaith dur yn aros yng Nghymru, ac yn dod yn wyrddach, medd Plaid Cymru.
Daw sylwadau arweinydd y blaid, Rhun ap Iorwerth, wrth ymateb i adroddiadau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn trafod sut i ddiogelu safle Tata Steel ym Mhort Talbot.
Yn ôl Sky News, mae’r cynlluniau’n cynnwys San Steffan yn buddsoddi tua £500m er mwyn symud at drefn fwy cynaliadwy.
Byddai’r fargen yn sicrhau £1bn ar gyfer y safle, ac yn ôl Sky News, byddai rhiant-gwmni Tata Steel yn cytuno i wario £700m hefyd.
Yn ôl yr adroddiadau byddai’r cwmni’n adeiladu ffwrneisi trydan, sydd yn cynnig ffyrdd gwyrddach o gynhyrchu dur.
‘Gwneud y gorau o’r potensial’
Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod rhaid sicrhau bod y gwaith dur yn aros yng Nghymru.
“Mae hynny’n golygu dod yn wyrddach, cael mwy o fuddsoddiad gan y llywodraeth, a gwarchod yr holl swyddi sy’n ddibynnol arno,” meddai arweinydd Plaid Cymru.
“Mae gan Tata rôl enfawr wrth ddatgarboneiddio ein heconomi genedlaethol, ac mae ganddyn nhw’r potensial i roi Cymru ar y trywydd cywir ar gyfer chwyldro swyddi gwyrdd.
“Rhaid gwneud y gorau o’r potensial hwnnw.
“Rhaid i lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig weithio gyda’r cwmni a’r Undebau i warchod swyddi a dyfodol y diwydiant.
“Gyda’r Senedd yn aduno mewn wythnos, dylai’r Prif Weinidog fod yn barod i’n diweddaru ar y mater hollbwysig hwn er mwyn rhoi gymaint o sicrwydd â phosib i’r diwydiant a’i gweithwyr.”
Gallai hyd at 3,000 o staff Tata Steel yn y Deyrnas Unedig golli’u swydd o ganlyniad i’r newidiadau, yn ôl yr adroddiadau.
Mae’r safle ym Mhort Talbot yn cyflogi tua 4,000 o weithwyr.
Mewn datganiad, dywedodd y cwmni eu bod nhw’n parhau i drafod fframwaith ar gyfer parhad a datgarboneiddio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.