Mae cynlluniau i godi tai ar “safle gwenwynig” yng Nghaerffili wedi cael eu condemnio.
Mae tir hen ffatri tar Thomas Ness ger gorsaf drenau’r dref wedi cael ei glustnodi ar gyfer tai gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Er hynny, mae amheuaeth bod y safle’n cynnwys cemegau y gellid tarfu arnynt pe bai tai’n cael eu hadeiladu yno.
Ar ôl bron i hanner canrif, fe wnaeth y ffatri stopio cynhyrchu tar yn 1985, ac mae’r safle wedi bod yn wasg ers canol y 1990au.
Wrth ymweld â’r safle er mwyn tynnu sylw at eu pryderon, dywedodd Aelodau o’r Senedd Plaid Cymru mai natur a chymunedau sy’n cael eu heffeithio gan y llygredd.
“Nid dyma’r unig safle halogedig yn ein rhanbarth. Mae chwarel Tŷ Llwyd yn Ynys-ddu yn dod i’r meddwl yn syth,” meddai Peredur Owen Griffiths, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru.
“Er y byddai’n well gan Blaid Cymru adeiladu ar safleoedd tir llwyd fel hon yn hytrach na’r safleoedd tir glas fel yr un ger Cefn Fforest a adeiladwyd arnynt, mae eithriadau i’r polisi hwn pan fo’r tir wedi’i halogi fel hyn.
“Mae adferiadau hir neu gymhleth yn golygu bod cymunedau a chynefinoedd naturiol wedi cael eu heffeithio neu eu bygwth ers degawdau.
“Mae’r ddadl am gostau ar gyfer clirio a phwy sy’n talu yn parhau. A drwy hyn oll, natur a chymunedau sy’n talu’r pris.
“Ni all pethau fynd ymlaen fel hyn.”
‘Effaith ar gymunedau’
Ychwanegodd Delyth Jewell, sy’n cynrychioli Plaid Cymru dros yr un rhanbarth: “Mae’r safleoedd hyn yn cael eu defnyddio at ddibenion diwydiannol a neu dipio gwastraff diwydiannol wedi’i halogi.
“Yr hyn sy’n digwydd nawr yw’r effaith ar gymunedau, cymdogion a’n hamgylchedd.
“Mae cemegau sy’n cael eu trwytho neu eu halogi yn llifo i ffwrdd o’r safle.
“Cyrsiau dŵr yn derbyn unrhyw beth sy’n dianc o’r safle ac yn mynd i’n hafonydd.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am ymateb.