Mae cael gorsafoedd tân mewn ardaloedd gwledig yn “hanfodol”, medd ymgyrchwyr sy’n galw am beidio cau gorsafoedd yn y gogledd.

Cafodd deiseb yn galw am gadw gorsafoedd Cerrigydrudion, Llanberis, Conwy, Biwmares ac Abersoch ar agor ei lansio dros y penwythnos.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymgynghori ar ddarpariaeth eu gwasanaeth yn y dyfodol, ac maen nhw’n cynnig tri opsiwn i’r cyhoedd.

Mae un o’r opsiynau hynny, Opsiwn 3, yn golygu cau’r bum gorsaf dân.

‘Allwn ni ddim eu colli’

Dau sy’n cefnogi’r ymgyrch, a gafodd ei lansio yn Sioe Cerrigydrudion ddydd Sadwrn (Medi 2), yw Glyn a Hafwen Thomas o Badog ger Pentrefoelas.

“Yn ôl ar ddiwedd y 1990au, achosodd nam trydanol dân mewn ysgubor ar ein fferm,” medden nhw mewn datganiad ar y cyd.

“Roedd injan dân Cerrigydrudion yno o fewn 15 munud – roedd y swyddogion yn gwybod yn union le’r oedd y fferm ac yn cyrraedd yno’n gyflym.

“Oni bai am hynny, byddai’r tân wedi lledu i adeiladau eraill ac wedi bod yn ddinistriol i ni fel ein teulu, a’n bywoliaeth.

“Rydym mor ddiolchgar i Griw Tân Cerrigydrudion am yr hyn a wnaethant i ni.

“Fel cymuned, ni allwn eu colli mewn gwirionedd.”

“Bywyd a marwolaeth”

Mae’r Cynghorydd Gwennol Ellis, sy’n cynrychioli Cerrigydrudion ar Gyngor Sir Conwy, yn eilio’r galwadau.

“Mewn cymuned wledig fel Uwch Aled, mae cael gorsaf dân lleol yn hanfodol,” meddai’r Cynghorydd Plaid Cymru.

“Mae llawer o ffermydd ac anheddau anghysbell, a gall fod yn anodd dod o hyd iddynt heb wybodaeth leol.

“Gall y wybodaeth honno am yr ardal sydd gan y criwiau lleol olygu’r gwahaniaeth rhwng cadw tân yn gynwysedig neu wynebu difrod sylweddol; ac yn sylfaenol gallai olygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth.

“Mae ein criw tân lleol yn rhan o’r gymuned, maen nhw’n adnabod yr ardal a’r trigolion.

“Maent yn gweithio’n galed ac yn barod i roi eu bywydau ar y lein i achub ein bywydau ni.

“Rydyn ni mor ddiolchgar iddyn nhw am hynny, ac ni fyddem am eu colli.”

Dydy stori Glyn a Hafwen Thomas ddim yn unigryw, ychwanega.

“Mae pobol yn teimlo’n gryf bod angen achub ein gorsaf dân lleol nid yn unig ar gyfer ein cymuned ein hunain ond ar gyfer yr ardaloedd gwledig cyfagos y mae ein gorsaf hefyd yn eu gwasanaethu,” meddai.

“Cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’r cyntaf o’u nosweithiau ymgynghori yng Ngherrigydrudion, ac roedd yr ystafell yn orlawn, gan ddangos lefel y diddordeb sydd yn lleol, ac arwyddodd dros 120 o bobl ein deiseb yn y sioe.”

Colli diffoddwyr tân

Cafodd deiseb yn galw am gadw gorsafoedd Cerrigydrudion, Llanberis, Conwy, Biwmares ac Abersoch ar agor ei lansio dros y penwythnos.

Mae Catrin Wager, ymgeisydd Plaid Cymru dros Fangor Aberconwy, yn cefnogi’r ddeiseb hefyd.

“Mae ein diffoddwyr tân yn haeddu gwell,” meddai.

“Mae eu parodrwydd i roi eu bywydau ar y lein i achub ein bywydau ni yn rhywbeth rydyn ni i gyd yn hynod ddiolchgar amdano.

“Maent yno ar gyfer ein hawr o angen – o ddamweiniau ffordd, tanau domestig a diwydiannol neu amaethyddol, i achub pobol rhag llifogydd.

“Nawr mae angen i ni fod yno iddyn nhw.”

Rhan o beiriant tan

Pryder gwleidyddion am gynlluniau posib i gau gorsafoedd tân yn y gogledd

Mae un opsiynau’n cynnwys cau pum gorsaf dân, ac mae angen i fwy o bobol allu dweud eu dweud am y mater, medd Plaid Cymru