Mae angen i fwy o bobol allu dweud eu dweud am gynlluniau i addasu’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn y gogledd, yn ôl Plaid Cymru.
Gallai’r cynlluniau i ddiwygio’r gwasanaeth arwain at gau pum gorsaf ar draws gogledd-orllewin Cymru.
Ar hyn o bryd, mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar dri opsiwn, gan gynnwys un fyddai’n golygu cau gorsafoedd Abersoch a Llanberis a cholli 74 o ddiffoddwyr tân.
Mae cynrychiolwyr Plaid Cymru yng Ngwynedd wedi galw am ddiogelu’r ddwy orsaf, ac wedi annog yr Awdurdod i ymestyn yr ymgynghoriad cyhoeddus fel ei fod yn para’n hirach na deufis.
Yn ogystal â cholli 74 swydd, byddai’r opsiwn sy’n cynnwys cau’r gorsafoedd yn golygu bod 2,087 yn llai o aelwydydd am allu derbyn ymateb gan frigâd dân o fewn ugain munud.
Dan opsiwn un a dau, byddai mwy o gartrefi’n derbyn ymateb o fewn ugain munud.
Y trydydd opsiwn yw’r unig un fyddai’n arwain at gau gorsafoedd – Abersoch, Cerrigydrudion, Biwmares, Conwy a Llanberis – tra bo’r ail opsiwn yn cynnwys colli 22 o ddiffodwyr tân llawn amser.
Mae’r tri opsiwn yn cyfeirio at fwy o ymgysylltu â diwydiant a busnes mewn ardaloedd gwledig, gyda’r trydydd opsiwn yn costio tua £9 yn llai fesul cartref y flwyddyn o gymharu â’r opsiwn cyntaf. Yr opsiwn cyntaf fyddai’n arwain at y nifer lleiaf o doriadau.
Mae’r ymgynghoriad ar agor tan Fedi 22.
‘Pryderus’
Dywed Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol etholaeth Dwyfor Meirionnydd sy’n cynnwys Abersoch, ei bod hi’n “bryderus” o glywed y cynigion i ad-drefnu Gwasanaeth Tân y gogledd.
“Mae yna eisoes wrthwynebiad o fewn cymunedau lleol i gau’r gorsafoedd, sy’n gweithredu mewn ardaloedd heriol lle mae gwybodaeth a phrofiad lleol yn cyfrif,” meddai.
“Dylid sylweddoli hefyd bod y rhan fwyaf o orsafoedd tân yn ymateb i alwadau sydd y tu allan i’w hardal leol ac y dibynnir arnynt yn aml i fod yn gefn pan fydd gorsafoedd cyfagos eraill allan ar alwad.
“Os bydd gorsafoedd Abersoch a Llanberis yn cau, yna nid yn unig y bydd hyn yn tynnu gwasanaeth hanfodol o’r cymunedau hynny, ond mae hefyd yn golygu bod dau beiriant tân yn llai ar gael wrth gefn pe bai angen.
“Mae ardaloedd gwledig eisoes yn dioddef yn anghymesur o ran cael mynediad at wasanaethau, gydag amseroedd ymateb ambiwlansys yn bryder parhaus yn fy etholaeth. Bydd toriadau ychwanegol i’r gwasanaeth tân ond yn gwaethygu’r sefyllfa.
“Mae natur wledig Gwynedd a chynnydd y boblogaeth yn ystod misoedd yr haf yn golygu pwysau ychwanegol ar ein gwasanaethau brys.
“Mae ardaloedd fel Pen Llŷn a Llanberis yn fannau poblogaidd i dwristiaid sy’n golygu hyd yn oed mwy o bwysau ar adnoddau cyfyngedig.
“Mae diogelu presenoldeb y gwasanaeth tân yn y cymunedau hyn yn hanfodol.”
Ychwanega ei bod yn annog pobol i ddweud eu dweud drwy’r ymgynghoriad.
‘Nid cau yw’r unig ddewis’
Dywed Hywel Williams, sy’n cynrychioli Arfon yn San Steffan, ei fod yn falch o gael cyfarfod â diffoddwyr tân a chynghorwyr Llanberis i glywed am effaith bosib y cynigion ar yr orsaf a’r gwasanaeth lleol.
“Roeddem i gyd yn cytuno bod yr orsaf a’i chriw yn wasanaeth hanfodol i’n cymuned, yn ogystal â chyfrannu at gwrdd ag argyfyngau y tu allan i’r ardal, hyrwyddo diogelwch tân a recriwtio a hyfforddi diffoddwyr tân y dyfodol,” meddai.
“Nid cau yw’r unig ddewis sydd ar gael. Rwy’n annog pobol i edrych yn ofalus ar y wybodaeth sydd ar gael.
“O’m rhan fy hun, rwy’n cefnogi opsiwn 1 neu 2, a fyddai’n ymestyn y Gwasanaeth Tân a ddarperir yn ardaloedd gorllewinol a mwy gwledig gogledd Cymru.
“Rwy’n rhannu pryderon fy nghydweithwyr ar amseriad yr ymgynghoriad cyhoeddus. Nid yw ein Senedd yn eistedd. Felly, ychydig iawn o amser sydd cyn i’r ymgynghoriad ddod i ben ar gyfer craffu priodol a gofyn cwestiynau i’r Gweinidog atebol.
“Hefyd, mae llawer o deuluoedd yn cymryd eu gwyliau yn ystod mis Awst, eto’n lleihau’r siawns o ymgysylltu’n iawn â’r ymgynghoriad.
“Rwy’n annog Awdurdod Tân Gogledd Cymru i edrych eto ar yr amseriad ac ymestyn yr ymgynghoriad y tu hwnt i fis Medi.
“Dyma’r ffordd i gael ymgysylltiad ystyrlon a, gobeithio, consensws ar y ffordd orau ymlaen.”