Mae prosiect celf ar y gweill i ddathlu pobol Hirael ac enwau llefydd Beddgelert.

Fel rhan o’r prosiect, ddechreuodd fel ymgais i gofnodi un enw’n barhaol trwy ddefnyddio celf a chelfyddyd, daeth i’r amlwg fod gan bobol leol ddiddordeb mewn enwau, ffugenwau a llysenwau, a straeon lleol.

Oherwydd y diddordeb penodol mewn pobol yn Hirael, maen nhw’n meddwl cofnodi cyfres o leisiau, sgyrsiau, atgofion a theimladau ynghylch byw yno.

Mae’r un prosiect yn rhedeg ym Meddgelert, ond enwau llefydd fel ffermydd, caeau a lonydd mae’r gymuned yno eisiau eu cadw ar gofnod.

Mae’r prosiectau’n cael eu rhedeg gan Blas Pontio ar y cyd rhwng Pontio Bangor a Pharc Cenedlaethol Eryri, ac mae prosiectau Blas Pontio i gyd yn cael eu hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Pobol Hirael

(Llun: Iolo Penri)

Mae Gwion Aled, sy’n hanu o Lansannan ond a fu’n byw yn Hirael tan 2020, yn dweud mai pobol sydd o ddiddordeb yn Hirael, tra mai llefydd sydd o ddiddordeb i drigolion Beddgelert.

“Roeddwn yn byw yn Hirael am ddeuddeg mlynedd ac roedd gymaint o straeon nad oeddwn yn ymwybodol ohonynt a chymeriadau, pobol leol,” meddai Gwion Aled wrth golwg360.

“Pobol, cyfenwau, nicknames, straeon.

“Dyna wnes i weld ar goll oedd y straeon a’r hanes yna.

“Oes, mae yna enwau strydoedd sydd ddim yn bodoli dim mwy.

“O ran termau, mae yna un neu ddau o dermau sydd ddim yn cael eu defnyddio y dyddiau yma.

“Dyna wnes i sylweddoli, enwau pobol sydd wedi’n gadael ni mewn ffordd, ti ddim yn clywed am y cymeriadau yna mwyach.”

Mae Mared Elliw Huws, Cydlynydd Datblygu’r Celfyddydau Pontio, yn cytuno.

“Yn syth pan wnaethon siarad am Hirael, pobol a nicknames oedd y peth cyntaf oedd pobol eisiau siarad amdanyn nhw,” meddai.

“Rydym wedi mynd at y gymuned a dweud bo ni eisiau dewis un gair i gael ei gadw mewn ffordd gelfyddydol.

“Y gwahaniaeth mawr ydy, ym Meddgelert maen nhw eisiau cadw yr enwau yma sy’n cael eu colli a’u newid, enwau ffermydd, enwau caeau, enwau lonydd.

“Yn Hirael, y bobol sy’n bwysig a’r hanes llafar coll yna sydd ddim wedi cael ei nodi ond sy’n hanes ofnadwy o bwysig, ddim dim ond i Hirael ond i Fangor i gyd.”

Bwriad

(Llun: Iolo Penri)

Er mai’r bwriad gwreiddiol yn Hirael oedd cofnodi un peth yn unig, daeth i’r amlwg na fyddai hynny’n bosib, ac maen nhw bellach yn bwriadu gwneud cyfres am bobol, gyda lluniau, yn ôl dymuniad y bobol leol.

Mae lluniau yn barod o Hirael sy’n dyddio yn ôl i’r 1970au, ac maen nhw am gyfuno hen a newydd.

“Ar ddechrau prosiect, ti’n meddwl wnawn ni gofnodi un peth, wedyn meddwl sut i’w gofnodi mewn ffordd gelfyddydol,” meddai Gwion Aled.

“Ond beth ddôth yn amlwg yn syth, bod hi’n amhosib cofnodi un peth.

“Mae hanes Hirael mor gyfoethog, roeddwn yn sylweddoli mai efallai cyfres o leisiau, cyfres o sgyrsiau, cyfres o atgofion, o deimladau o fyw yn Hirael roeddem yn teimlo oedd yn bwysig ei recordio.

“Rwy’n meddwl mai’r syniad ddôth o’r sesiwn gyntaf oedd recordio lleisiau trigolion Hirael yn trafod yr hen ddyddiau, yn sgwrsio am bobol sydd yn byw ac wedi byw yn Hirael, a hefyd hwnna i’r ysgol yn Hirael i’r plant sydd yn byw yn Hirael heddiw, a’u teimladau nhw o fyw yn Hirael heddiw.

“Trio recordio wedyn, lleisiau, trawsdoriad eang o bobol Hirael.

“Y syniad wedyn yw bo ni’n tynnu lluniau.

“Mae yna lyfr wedi cael ei gyhoeddi ar Hirael, llyfr efo cyfres o luniau.

“O bosib, mae’r lluniau yn mynd nôl i’r pumdegau.

“Gary Stuart, roedd yn fyfyriwr oedd yn byw yn Hirael, gwnaeth o dynnu lluniau o Hirael ac mae’r llyfr yna wedyn yn adnabyddus iawn yn Hirael ac ym Mangor.

“Beth rydym ni’n gwneud rŵan ydy creu lluniau newydd, cael ffotograffiaeth newydd o Hirael.

“Y bwriad ydy, yn y pen draw, cyfuno hen luniau gyda lluniau presennol Hirael ac wedyn trosleisio’r lluniau yma gyda straeon a lleisiau plant a phobol sy’n byw yn Hirael.”

(Llun: Iolo Penri)

Bwriad tra gwahanol ym Meddgelert

Ym Meddgelert, mae’r bwriad yn dra gwahanol.

Yno, maen nhw am roi enwau ar gadeiriau haf a’u rhoi nhw allan ar adegau prysur i bobol gael eistedd a sgwrsio.

Siwan Llynor sy’n arwain y prosiect hwnnw, a hithau’n ymarferydd fel Gwion Aled, ac mae’r artist Ffion Pritchard hefyd yn ymuno â nhw.

“Beth maen nhw’n mynd i wneud yw cael cadeiriau dec,” meddai Mared Elliw Huws.

“Mae gwahanol grwpiau yn sgwennu eu henwau nhw mewn ffordd rili cŵl, eu hoff enw nhw o’r ardal, a’u rhoi nhw ar y cadeiriau dec.

“Byddan ni’n rhoi’r cadeiriau dec yma allan fis Medi pan mae hi dal yn reit brysur o ran twristiaid, a gwahodd pobol i ddod i eistedd ar y cadeiriau dec a sgwrsio am yr enwau yma sydd ar y cadeiriau dec.

“Er eu bod nhw’r un prosiect, maen nhw wedi mynd i gyfeiriad gwahanol.”

Syniadau dal yn datblygu

(Llun: Iolo Penri)

Mae’r ffaith fod y prosiectau yn Hirael a Beddgelert mor wahanol i’w gilydd yn dyst i fewnbwn y cymunedau.

Mae’r prosiectau’n dal yn eu dyddiau cynnar, ac maen nhw’n gobeithio y bydd gan y gymuned ragor o syniadau maes o law.

Er bod y prif ffocws ym Meddgelert ar enwau llefydd, mae pobol yno wedi bod yn meddwl am recordio lleisiau hefyd.

“Rydym ar ganol y prosiect ar hyn o bryd,” meddai Gwion Aled.

“Rydym efo dipyn go lew i fynd eto.

“Rwy’ eisiau mynd i recordio ychydig o sgyrsiau eto.

‘Mae gennym fwy o luniau i’w tynnu o ran yr ochr Hirael.”

Yn ôl Mared Elliw Huws, bydd hi’n ddifyr gweld pen draw’r prosiect.

“Rydym dal yn reit agored i awgrymiadau,” meddai.

“Os ydy’r gymuned yn troi rownd a dweud, ‘beth am wneud hyn?’ ac mae’n bosib o fewn ein cyllideb, rwy’n meddwl ei fod yn bwysig bo ni’n trio gwneud beth mae’r gymuned yn ei ofyn, oherwydd bwriad y prosiect yma yw rhoi’r prosiect yn nwylo’r gymuned a bod y gymuned yn dewis.

“Byddai’n ddiddorol gweld y prosiect yn rhedeg law yn law mewn dau le gwahanol.

“Mae’n amlwg bod y gymuned wedi gafael ynddyn nhw a rhedeg efo nhw, oherwydd maen nhw yn ddau brosiect eithaf gwahanol.

“Mae’r recordio lleisiau yn rywbeth sydd wedi codi ym Meddgelert hefyd, recordio’r hanesion yma cyn iddyn nhw fynd, cyn iddyn nhw ddiflannu.

“Mae’r prosiect yma’n tanlinellu pwysigrwydd hanes llafar gwlad, hanes lleol iawn, oherwydd mae’r straeon rydym wedi’u clywed hyd yma tu hwnt o ddifyr.

“Rydym wedi clywed am gymeriadau hynod ddiddorol a straeon doniol, straeon trist.

“Rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n recordio rhain cyn iddyn nhw fynd yn angof.”

(Llun: Iolo Penri)

Dan deimlad wrth hel atgofion

Mae’r gymuned yn hel atgofion wedi cael cryn effaith ar Gwion Aled, ac mae wedi gweld un dyn dan deimlad wrth wneud hynny mewn cyfarfod cyhoeddus hefyd.

“Mae llawer ohonyn nhw’n bobol rwy’n nabod ers byw yno,” meddai.

“Cefais un dyn wedi mynd dan deimlad erbyn diwedd y noson.

“Roedd wedi mwynhau hel atgofion gymaint.

“Daeth ataf fi a dweud, “I absoloutely loved that”. Dydw i erioed wedi ei weld fel yna o’r blaen.

“Rwy’n meddwl efallai bo nhw ddim yn hel atgofion fel cymuned, bod y prosiect yma wedi rhoi rhyw fath o sbarc a theimlad o fod yn falch o Hirael ac i hel atgofion eto.

“Mae hynny wedi bod yn reit arbennig i glywed pobol leol yn dweud hynna.

“Mae hynna’n un o’r pethau sy’n aros yn y cof.”

Croestoriad enfawr

(Llun: Iolo Penri)

Gan fod pobol mor amrywiol yn byw ym Meddgelert a Hirael, mae’n bwysig fod y prosiect yn ceisio cyrraedd pawb.

Ar hap a damwain y daeth Mared Elliw Huws ar draws dynes o Hirael o deulu Eidalaidd, yn siarad Eidaleg gyda’i phlentyn.

Ar lawr gwlad ac nid yn unig y cyfryngau cymdeithasol mae cyrraedd y bobol yma, meddai.

“Gwnaeth Iolo Penri, y ffotograffydd rydym wedi’i gomisiynu i wneud gwaith y lluniau, ddweud mai’r ddynes yna sy’n sefyll yn yr ardd yn edrych yn cŵl oherwydd roedd yn sefyll efo’i phlentyn.

“Dyna Iolo’n gofyn cael tynnu llun a gwnes i ddechrau sgwrsio efo hi.

“Gwnes i ffeindio allan ei bod hi wedi byw yn y tŷ yna ar hyd ei hoes, a’i rhieni wedi byw yn y tŷ yna.

“Rwy’n siŵr y bydd ganddi hi hanes diddorol iawn i ddweud wrthym ni.

“Mae yna hanes Eidalwyr cryf ers yr Ail Ryfel Byd yn Hirael.

“Ar hap a damwain y daethon nhw ar draws y ddynes yma.

“Rydym am fynd ’nôl i’w chyfweld ryw dro.

“Mae cerdded o gwmpas Hirael a tharo ar bobol yn ffordd o sicrhau ein bod ni’n cyrraedd y croestoriad enfawr o bobl yma, oherwydd rydyn ni wedi bod yn trio rhoi call out, ac mae mynd trwy’r ysgol o hyd yn ffordd ffantastig o gyrraedd cymuned.

“Mae bod yn gorfforol yn Hirael, taro ar bobol a gofyn, yn cyrraedd pobol fysen ni byth yn gallu’u cyrraedd drwy ofyn ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae hwnna’n rhan bwysig o’r prosiect yma yn Hirael ac ym Meddgelert, sicrhau ein bod ni’n cyrraedd pawb.

“Dydy hi ddim yn bosib cyrraedd pawb, ond sicrhau ein bod ni’n cyrraedd y trawstoriad mwyaf eang, ddim jyst pobol sydd fel arfer yn ymwneud â’r celfyddydau neu’n ymwneud â hanes, neu sydd o’r ardal.

“Ym Meddgelert, rydyn ni eisiau cyrraedd y twristiaid a phobol sy’n berchen ar ail gartrefi gymaint ag yr ydym eisiau cyrraedd y bobol leol, y bobol sy’n byw yna.

“Mae bod allan a cherdded o gwmpas y strydoedd yn elfen bwysig iawn o’r prosiect yma.

“Mae pobol wedi bod yn edrych ’nôl ar hanes Hirael a meddwl bod o’n amser gwell.

“Mae’r cyfnod yma yn Hirael yn ofnadwy o ddifyr, ac mae’r gymuned dal yn gryf.”

Y gymuned sy’n cymryd rhan

(Llun: Iolo Penri)

Mae aelodau’r gymuned sy’n cymryd rhan yn cynrychioli oedrannau a chefndiroedd gwahanol, ac mae’n bosib dod o hyd iddyn nhw mewn gwahanol lefydd hefyd.

“Mae yna drawstoriad eang o bobol yn byw yn Hirael,” meddai Gwion Aled.

“Gwnaethon ni gychwyn yn mynd i’r Mostyn Arms, sef tafarn sydd yn Hirael.

“Ddôth yna griw bach i mewn, llawer ohonyn nhw yn bobol sy’n yfed yn y dafarn a rhai sydd heb fod yna hefyd.

“Daethon nhw yna efo’u hanesion.

“Mae llawer ohonyn nhw yn byw yn Hirael, ambell un wedi symud i’r ardal, ambell un wedi byw yn yr ardal erioed, un dal yn byw yn y cartref lle cafodd ei fagu, mae o yn ei bumdegau hwyr bellach.

“Ti’n sôn am rai sydd wedi byw yn Hirael ar hyd eu hoes.

“Mae yna blant yn cymryd rhan, plant sy’n byw yn Hirael.

“Rwyf wedi bod yn y bingo yn siarad efo’r henoed, llawer ohonyn nhw wedi’u magu yn Hirael, llawer ohonyn nhw wedi symud mewn i Hirael yn ifanc, felly trawstoriad eang.

“Mae Hirael wedi newid dros y blynyddoedd.

“Rydym yn trio cael trawstoriad o beth yw Hirael heddiw.”