Mae Gŵyl Ffilm LHDTC+ Gwobr Iris wedi cyhoeddi’r pymtheg ffilm sy’n cystadlu am deitl y Ffilm Fer Orau ym Mhrydain eleni.

Ymhlith y ffilmiau ar y rhestr fer mae stori am wyddonydd a’i ffrind gorau AI (deallusrwydd artiffisial), stori ‘dod i oed’ wedi’i gosod yn ystod treialon gwrachod 1605, ac aduniad hir-ddisgwyledig gyda chariad cyntaf yn Lerpwl.

Dyma’r rhestr fer gyntaf ar gyfer Gŵyl 2023 i gael ei chyhoeddi, a chaiff y gystadleuaeth ei chefnogi gan Film4 a Pinewood Studios.

Gwobr Iris 2023 – Ffilm Fer Gorau Ym Mhrydain:

Lemon | Cyf. Tala Nahas

Goodbye Python | Cyf. Frankie Fox

Betty and Jean | Cyf. Elinor Randle

Malcolm | Cyf. Caleb J Roberts

TICKER | Cyf. Thom Petty

Longing | Cyf. Courteney Tan

Ted & Noel | Cyf. Julia Alcamo

The Talent | Cyf. Thomas May Bailey

Bleach | Cyf.  Daniel Daniel

Realness with a Twist | Cyf. Cass Kaur Virdee

Just Passing | Cyf. Sophie Austin

Stone | Cyf. Jake Graf and Hannah Graf

F**KED | Cyf.  Sara Harrak

Requiem | Cyf. Em J Gilbertson

Fortune Favours the Fantabulous | Cyf.  Emmanuel Li

Bydd pob un o’r ffilmiau ar y rhestr fer yn cael eu ffrydio ar Channel 4 am flwyddyn ar ôl yr ŵyl, ac mae’r holl ffilmiau sy’n cael eu henwebu yn gymwys i’w hystyried ar gyfer BAFTA.

‘Cyrraedd cynulleidfa newydd’

Cafodd y rhestr fer ei chyhoeddi mewn Digwyddiad Parti Haf arbennig i Aelodau Gwobrau Iris yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Dywed Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Gwobr Iris, eu bod nhw wrth eu boddau’n cyflwyno’r bymtheg ffilm i’w cynulleidfaoedd, a’u bod nhw’n falch iawn o’u partneriaethau.

“Mae Film4 yn gefnogwr gwych o dalent cartref a newydd, ac rwy’n gyffrous i atgoffa pobol y bydd pob un o’r pymtheg ffilm fer mewn cystadleuaeth ar gael i’w ffrydio ar Channel 4 am ddeuddeng mis.

“Mae’r bartneriaeth hon wedi dod yn rhan werthfawr iawn o helpu Iris i gyrraedd cynulleidfa newydd ar gyfer straeon LHDTC+.

“Dyma’r tro cyntaf i ni gyhoeddi’r rhestr fer Gorau Ym Mhrydain i’n haelodau Gwobr Iris gwerthfawr ac y gellir ymddiried ynddynt, hebddynt ni fyddai sawl agwedd o’r ŵyl yn bosibl.

“Mae gennym ymhlith ein haelodau, gwirfoddolwyr sy’n helpu gyda rhedeg agweddau dyddiol dangosiadau ffilm yn ddidrafferth, i grŵp ymroddedig o bobol sy’n agor eu cartrefi i wneuthurwyr ffilmiau ac aelodau rheithgor sy’n ymweld.”

Bydd Gŵyl Ffilmiau Gwobrau Iris yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd rhwng Hydref 10 ac 15 eleni.