Geraint Jones o Drefor fydd yn derbyn Medal Goffa Syr T.H. Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni.

Caiff y Fedal ei chyflwyno’n flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobol ifanc.

Dyn ei filltir sgwâr yw Geraint Jones, a’r filltir honno yw pentref Trefor, ac mae’r gymuned leol wedi elwa o’i ymroddiad, ei frwdfrydedd a’i egni ers dros hanner canrif.

Yn ddi-os, mae ei ddylanwad a’i gefnogaeth ymarferol wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobol ifanc ei fro.

Arweinydd Seindorf Trefor

Mae’n debygol mai am ei gyfraniad aruthrol i Seindorf Trefor mae Geraint Jones yn fwyaf adnabyddus.

Yn 1966, ailsefydlodd Seindorf Trefor, ac yna, dair blynedd yn ddiweddarach, cafodd ei benodi’n arweinydd y band.

Mae’n parhau gyda’r gwaith hwn hyd heddiw, gyda’i gyfraniad i fyd bandiau pres gogledd-orllewin Cymru yn enfawr.

Bu hefyd yn athro offerynnau pres yn ardal Sir Gaernarfon, gan ysbrydoli plant a phobol ifanc y fro i fynd ati i roi tro ar ‘chwythu corn’.

Athro, cludwr tapiau pêl-droed, a chadeirydd a rheolwr canolfan

Yn athro cynradd wrth ei brif alwedigaeth, bu’n dysgu yn Ysgol Cymerau cyn ei benodi’n bennaeth ar ei hen ysgol, Ysgol Trefor, lle bu’n gweithio tan iddo ymddeol yn gynnar.

Daeth newid byd llwyr wedyn wrth iddo dreulio deuddeng mlynedd yn cludo tapiau fideo pêl-droed o gyfandir Ewrop ar gyfer rhaglen Sgorio ar S4C.

Mae ei gymuned wastad wedi cael blaenoriaeth gan Geraint, ac mae sicrhau bod digonedd o weithgareddau a digwyddiadau o bob math yn cael eu cynnal yn y Gymraeg wedi’i yrru dros y blynyddoedd.

Yn 2006, cafodd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai ei sefydlu, a bu’n gadeirydd arni am ddwy flynedd, ac ers pymtheng mlynedd mae’n reolwr gwirfoddol ar y ganolfan.

Ymgyrchydd

Yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith, mae’n parhau yn weithgar yn y maes ac yn gydlynydd addysg Cylch yr Iaith.

Mae hefyd wrthi’n brysur yn paratoi cyfrol swmpus ar hanes pum mlynedd gyntaf y Gymdeithas.

Mae ei frwdfrydedd a’i gyfraniad yn crisialu amcanion Cronfa Goffa Syr T.H. Parry-Williams, meddai’r Eisteddfod.

‘Gwerthfawrogiad o’m llafur’

Dywed Geraint Jones fod derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams yn anrhydedd fawr.

“Rydw i’n ei hystyried yn fraint aruthrol derbyn y fedal fel gwerthfawrogiad o’m llafur,” meddai.

“Mae’n fy ngwneud yn dra gostyngedig, coeliwch fi.

“Rydw i’n gobeithio y bydd y pethau y bûm yn ymwneud â hwy yn parhau ac yn ysbrydoli eraill i fyw a brwydro dros gadwraeth ein hiaith a’n hunaniaeth fel Cymry.

“Diolch o galon a phob dymuniad da i Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.”

Cronfa er cof

Bu Syr T.H. Parry-Williams yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Awst 1975, yn dilyn ei farwolaeth ychydig fisoedd ynghynt, cafodd cronfa ei sefydlu i goffáu’i gyfraniad gwerthfawr i weithgareddau’r Eisteddfod.

Caiff y gronfa ei gweinyddu gan Ymddiriedolaeth Syr Thomas Parry-Williams.

Bydd Geraint Jones yn derbyn y Fedal ar lwyfan y Pafiliwn Mawr, am 2:20yp ddydd Llun, Awst 7.