Braf yw gweld fod fy ngholofn y tro hyn wedi ysgogi sylwadau. Hoffwn fanteisio ar hyn i geisio annog fwy o drafodaeth am camacennu, sydd yn ffenomenon difyr, ond sydd ella ddim wedi cael llawer o sylw hyd yn hyn.

Hefyd, os ydych wedi ffeidnio’r erthygl yma’n ddiddorol, ella fydd y nesaf yn y gyfres hefyd o ddiddordeb: Cam-odli neu’r odl fwyaf soniarus?

Er fod lyrics y gân wreiddiol ar gael ar wefan rhaglen Y Talwrn, nid yw’r awdio o’r perfformiad ene. Fodd bynnag, yn garedig iawn, mae Nia Griffiths o BBC Radio Cymru wedi anfon hwn ataf, felly rhannaf hi fa’ma i chi gael gwrando arni:

Mi wnes i bori’r we gryn dipyn wrth archwilio’r erthygl, ond wnes i ddim darganfod rhai pethau tan ar ôl i mi ei chyhoeddi. Dwni’m – fel ‘na mae weithiau, ynte? Fel yr ‘Ystafell gofyniad’ ym myd Harry Potter, weithiau mae pethau ene, ond dydyn ni methu dod o hyd iddyn nhw!

Beth bynnag, ers cyhoeddi’r erthygl, rwy’ wedi dod ar draws cwpwl o drafodaethau difyr yn y Gymraeg ar y we, am ganeuon Cymraeg yn benodol. Diddorol oedd ffeindio trafodaeth ar Maes-e.com, fforwm fues i’n aelod brwd ohono ’nôl yn y 2000au cynnar; cynhaliwyd y sgwrs hon yn 2007.

Gorwel Roberts o’r grŵp ‘Bob Delyn a’r Ebillion’ ddechreuodd y sgwrs, ac mae yna 61 o negeseuon iddi, gan gynnwys cyfeiriadau at raglen Y Talwrn ac, yn ddifyr iawn, i un o fy arwyr llenyddol newydd Dave ‘Datblygu’ Edwards. Dyma’r linc i chi cael ei darllen drosoch chi eich hunain: https://maes-e.com/viewtopic.php?f=5&t=23082

Yna sylwais ar erthygl yn archifau golwg360. Mae hi am gamacennu ym myd cerdd dant, ond er gwaethaf ei darllen drosodd a throsodd, doeddwn i methu ffeindio’r gair camacennu… nid tan i mi sbïo trwy’r llif o sylwadau oddi tani! Ac mewn sylw gan Nei yw hi, sy’n gwneud y pwynt fod cerdd dantwyr yn medru camacennu wrth ddarllen y gynghanedd: https://golwg.360.cymru/newyddion/cymru/92964-cerdd-dant-cantorion-ail-iaith-yn-mwrdro-r-grefft.

Ac er bod gen i sawl llyfr cynghanedd yma yn y tŷ, a phob un ohonyn nhw’n sôn am gamacennu yn y cyd-destun hwnnw, nid oeddwn wedi cyfeirio atyn nhw am resymau amlwg. Ond gan fy mod yma yn cynnwys dolenni perthnasol, dyma gynnwys dolen i’r pwt ar yr Esboniadur, gan Alan Llwyd: https://wici.porth.ac.uk/index.php/Aceniad.

Byddwn wrth fy modd yn gweld mwy o erthyglau ar y mater pwysig hwn. Gan ei fod ar-lein, heb wal dalu, mi all fod yn adnodd addysgu i weithdai, yn enwedig hefo pobol ifanc. Medrwch gyfrannu trwy’r tab ‘Safbwynt’ yma ar golwg360 – ewch amdani!

Jim-a-Dylan

Synfyfyrion Sara: Digon da i Dylan, digon da i ni?

Dr Sara Louise Wheeler

Colofnydd golwg360 sy’n synfyfyrio am ‘blygu geiriau mewn caneuon’