Mae un o ffigurau mwyaf adnabyddus y byd cerdd dant wedi dweud fod cantorion sydd â’r Gymraeg yn ail iaith iddyn nhw yn “mwrdro’r grefft.”

Y gantores a’r hyfforddwraig canu Leah Owen oedd gwestai Beti George ar raglen BBC Cymru Beti a’i Phobol a dywedodd y byddai’n well ganddi “wneud i ffwrdd” gyda chystadlaethau cerdd dant i ddysgwyr.

“Gyda cherdd dant mae’n rhaid ichi gael y syniad ma o’r pwysleisiadau, ynganu cywir, ond mae wedi mynd yn fwy o ryw gân actol gan blant ail iaith, sy’n ddealladwy, ond sa’n well gen i roi cân iddyn nhw allan o sioe gerdd neu rywbeth felly iddyn nhw gael ei dysgu a’i bloeddio, achos tydy eu lleisiau nhw ddim ‘run fath,” meddai Leah Owen, sydd wedi derbyn Medal Syr T H Parry Williams gan yr Eisteddfod Genedlaethol am ei chyfraniad i fywyd diwylliannol ei hardal yn Ninbych.

Ar Twitter cafodd ei  sylwadau eu beirniadu gan y sylwebydd Cris Dafis: “Am ryw reswm mae hyn wedi fy siglo mwy nag unrhyw un o’r llu o ddigwyddiadau anffodus sy wedi fy shiglo’n ddiweddar,” meddai.

Mae aelod o grŵp jazz Burum, Tomos Williams, wedi trydar fod cerdd dant yn “neud jobyn da iawn o mwrdro ei hunan. Dylid cadw dysgwyr mas ohoni.”

‘Cydymdeimlad’

Mae’r canwr cerdd dant Arfon Gwilym wedi dweud wrth Golwg360 fod ganddo gydymdeimlad gyda safbwynt Leah Owen.

“Holl bwrpas cerdd dant ydy cyflwyno geiriau, ac o brofiad mae’n fwy o broblem cyflwyno cerdd dant i ddysgwyr,” meddai’r canwr.

“Ond baswn i ddim ar unrhyw gyfrif yn mynd mor bell â pheidio â gadael i ddysgwyr ganu cerdd dant.

“Mae dysgwyr yn sicr yn mwynhau cerdd dant, er bod hynny’n merwino clust rhai ohonom ni,” meddai.

Dywedodd ei fod wedi cyflwyno cerdd dant i gynulleidfa o gefndiroedd gwahanol ym mhenwythnos gwerinol Arbrawf Mawr yn Sir Benfro ddechrau’r mis, ac wedi canu cerdd dant yn Saesneg yno er mwyn arddangos y grefft.

“Mae rhyw fystique am gerdd dant weithie, a’r argraff ei fod yn fyd bach, caeedig, ac mae angen dod dros hynna,” meddai.

Dywedodd Arfon Gwilym mai ei unig ofid am ddyfodol cerdd dant yw ei bod hi wedi colli ei gwreiddiau gwerinol.

“Dwi’n gweld arddull y canu ‘di mynd yn ffug ac yn rhodresgar, a dwi’n hiraethu am yr hen arddull – y naturioldeb a blas y pridd.

“Gor-ymdrech ydy o, gormod o sglein.”