Ellie Simmonds
Y beicwyr Bradley Wiggins a Syr Chris Hoy, y chwaraewr tenis Andy Murray a’r athletwyr Jessica Ennis a Mo Farah yw rhai o’r ymgeiswyr am dlws Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC eleni.

Mae’r rhwyfwr Katherine Grainger, y golffiwr Rory McIlroy, y bocsiwr Nicola Adams a’r moriwr Ben Ainslie yn ymgeiswyr eraill.

A bydd y Paralympiaid Ellie Simmonds, a gafodd ei magu yn Abertawe,  Sarah Storey a David Weir hefyd ar y rhestr fer ar gyfer y wobr. Bydd yr enillydd yn cael ei enwi mewn seremoni ar 16 Rhagfyr.

Cafodd y rhestr ei ddewis gan banel oedd yn cynnwys enillydd y wobr yn 2000, Syr Steve Redgrave, Y Farwnes Grey-Thompson a Denise Lewis. Yn ymuno a nhw oedd cadeirydd UK Sport, Y Farwnes Campbell, yn ogystal â chynrychiolwyr o’r BBC a’r diwydiant newyddiaduraeth.

Y Cymro diwethaf i gipio’r wobr oedd Ryan Giggs yn 2009 ond meddai cadeirydd y panel beirniadu a Chyfarwyddwr Chwaraeon y BBC, Barbara Slater: “Os ydyn ni angen unrhyw atgof am ba mor arbennig fu’r flwyddyn a fu i chwaraeon yna mae’r rhestr o bobl sydd ddim yn y 12 olaf yn destament i hynny.”