Llifogydd Talybont ym mis Mehefin
Wrth i Gymru fynd i’r afael â’r ail don o lifogydd mewn llai na chwe mis, mae llawer o’r rhai a gafodd eu heffeithio gan y dinistr cyntaf yn dal heb ddychwelyd i’w cartrefi.

Mae’r golygfeydd diweddaraf o Ogledd Cymru wedi bod yn rai cyfarwydd iawn i drigolion Talybont ac Aberystwyth, a fu’n ymladd drwy’r dwr eu hunain pan ddisgynodd glaw trwm dros Orllewin Cymru ar 8 a 9 Mehefin eleni.

Mae llawer o’r rheiny a effiethiwyd yn Nhalybont ac Aberystwyth yn dal i ddisgwyl cael mynd yn ôl i’w cartrefi, gyda theuluoedd yn byw mewn llety dros dro tra’n disgwyl yr arian yswiriant i gyrraedd, a’r gwaith atgyweirio i ddod i ben.

Heno, fe fydd Y Byd ar Bedwar yn clywed gan y rhai a effeithwyd gan lifogydd yr haf, ac yn darganfod maint y dinistr all gael ei greu gan ychydig ddyddiau o law trwm.

Un o’r rheiny a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd oedd Bill Gardner a’i bartner Barbra – bu’n rhaid i’r cwpwl oedrannus ddianc o’u bwthyn yn Nhalybont ar ôl i’r Afon Leri orlifo ym mis Mehefin.

Chwe mis wedi’r llifogydd, mae’r ddau yn dal i fyw mewn bwthyn gwyliau, wedi i’w gobeithion o symud yn ôl i’w cartref yn gynharach yn y mis gael eu gwthio’n ôl gan nad oedd y gwaith wedi gorffen.

Mae Bill Gardner yn dweud ei fod yn falch bod y gwaith nawr yn mynd yn ei flaen, er bod pethau wedi bod yn araf yn dechrau.

“Er bod pethau’n ddigon cyfforddus lle’r y’n ni, byddai’n well gen i fod fan hyn,” meddai wrth Y Byd ar Bedwar, tra’n sefyll yng nghragen wag y bwthyn yr oedd yn galw’n gartref chwe mis yn ôl.

Dinistr y llifogydd

I lawr yr hewl yn Llanbadarn Fawr, ar gyrion Aberystwyth, mae Y Byd ar Bedwar hefyd wedi bod yn dilyn Gareth Davies, cynghorydd lleol a welodd ei gartref yntau’n cael ei ddifrodi gan lifogydd Mehefin. Mae ef a’i deulu wedi bod yn byw mewn fflat yn Aberystwyth byth ers hynny.

“Mae’n ddigon braf, ond dyw e ddim fel adre. Pan r’ych chi’n cyrraedd adre o’r gwaith, r’ych chi eisie ymlacio, ond chi’n ffaelu neud ’ny fan hyn,” meddai.

Wrth i’r sgipiau sbwriel lenwi’r lle parcio tu allan i’w gartref, mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen – ond mae’n dweud y bydd hi’n cymryd tipyn o amser i ailadeiladu eu cartref ar ôl dinistr y llifogydd chwe mis yn ôl.

“Cafodd y dodrefn i gyd ei daflu allan, daeth y contractwyr i mewn a thynnu’r lloriau i fyny, a chymryd y plaster oddi ar y waliau hefyd,” meddai.

‘Gofidio am yswiriant’

Mae’r ddau deulu yn gobeithio bod yn ôl yn eu cartrefi erbyn y Nadolig, ond dydi’r un o’r ddau yn credu mai dyma fydd diwedd y trafferthion.

“Un o’n gofidiau mawr ni nawr yw’r yswiriant ar y ty,” meddai Gareth Davies, “faint fydd hynny’n costi i ni, a faint fydd yr excess yn effeithio arno fe.”

Ond mae’n dweud mai ei bryder mwyaf yw y bydd y llifogydd yn cael effaith hirdymor ar ddiogelwch eu cartref.

“Mae’n bryder bob tro mae ’na law trwm… R’yn ni’n poeni y gwneith yr un peth ddigwydd eto.”

Y stori llawn ar Y Byd ar Bedwar ar S4C, heno am 9pm.