Albwm newydd Gai Toms
Mae Gai Toms, y trwbadŵr o Flaenau Ffestiniog ac enillydd Cân i Gymru eleni, yn paratoi i ryddhau ei albwm gyntaf ers 2008.

‘Bethel’ yw enw albwm ddwbl newydd cyn-gitarydd Anweledig ac mae’n ddathliad o hanes a bywyd newydd festri Capel Bethel yn Nhanygrisiau, Bro Ffestiniog.

Mae Gai Toms wedi buddsoddi yn yr adeilad er mwyn ei drosi i stiwdio recordio, gofod ymarfer a swyddfa i’w label recordio, Recordiau SBENSH.

“I ddechra, be o’n i isio’i wneud oedd albwm o ganeuon fydda’n sefyll ar ei thraed ei hunain achos mi oedd yr albwm diwetha yn un eco-cysyniadol,” meddai Gai wrth sôn am ei albwm ‘Rhwng y Llygru a’r Glasu’ oedd yn canolbwyntio ar themâu oedd yn ymwneud â’r amgylchedd.

“Ond ges i fy medyddio yn y capel ac yno es i i’r ysgol Sul, ac wrth weithio ar ‘Bethel’ mae o wedi troi’n deyrnged i’r hen le ac yn ddathliad o’r newydd ac mae hynny wedi ychwanegu naws cysyniadol iddo fo heb drio.”

Gai sydd wedi cynhyrchu’r record ei hun ac mae’r ddisg gyntaf o’r ddwy, Bethel Hen, yn gyfle i glywed Gai fel cyfansoddwr a pherfformiwr amrwd ac mae’r caneuon yn rhai syml gyda llais a gitâr yn bennaf, ond er y teitl ‘Hen’, caneuon gwreiddiol newydd sbon, gwerinol eu naws.

Mae’r ail ddisg, Bethel ‘Newydd’, yn rhoi cyfle i Gai Toms a’r band ganu caneuon aml-arddull gwreiddiol ond gyda sŵn a chynhyrchiad llawnach.

Er mai artist unigol yw Gai Toms, mae ‘Bethel’ yn cynnwys dros 30 o gyfranwyr gan gynnwys Dr Meredydd Evans sydd yn 94 mlwydd oed.

“Roedd Merêd yn arfer mynd i Gapel Bethel pan oedd o’n tyfu fyny yn Tanygrisia a phan glywodd o mod i’n bwriadu gwneud gwaith yno fe ddaeth o draw i fy ngweld i. Yn y diwedd, fe sgwennais i gân yn arbennig iddo fo a honno yw’r gân gyntaf sydd i’w chlywed ar yr albwm.”

Mae cyfranwyr eraill yn cynnwys Dewi Prysor, band pres Seindorf yr Oakley, Côr y Moelwyn a’r bardd o Efrog Newydd, Bob Holman.

“Fe wnes i gyfarfod Bob pan ddaeth o i Gymru i wneud rhaglen ar gyfer sianel deledu Americanaidd ar ieithoedd sydd dan fygythiad. Mi oedd o’n byw yn Blaenau am ryw fis neu ddau ac mi roedd o draw yn ymarfer ar gyfer noson wnaethon ni ar y cyd pan recordiodd o sgat byrfyfyr i mi.”

Ac mae’r cyfranwyr wedi bod yn bwysig i ddatblygiad yr albwm hefyd.

“Rwy’ wedi gweithio’n galed iawn ar Bethel ac yn falch iawn o’r canlyniad, hon yw fy albwm orau hyd yn hyn. Ond ni fyddai’r albwm yn swnio fel y mae hi heb y cyfranwyr i gyd ac rwy’ mor lwcus i fod yn rhan o gymuned gerddorol dalentog.”

Bydd yr albwm yn cael ei lansio nos Iau, 6 Rhagfyr, yn Cell, Blaenau Ffestiniog ac mae Gai yn gobeithio mynd ar daith yn y flwyddyn newydd.