Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi bod Prifwyl Bro Morgannwg eleni wedi gwneud elw o £50,000.

“Mae hyn yn newyddion arbennig o dda,” meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, wrth gyflwyno adroddiad yng nghyfarfod Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth heddiw. “Yn wir, erbyn y diwedd, mae’r Gronfa Leol wedi cyrraedd 107% o’r targed, sy’n wych.”

Mae’r llwyddiant ariannol yn digwydd ar ôl i’r Eisteddfod greu arbedion o tua £200,000 eleni.

“Roedd y flwyddyn ddiwethaf yn llawn heriau, a bu’n rhaid i ni fel Eisteddfod edrych yn ofalus ar bob gwariant a chwilio am arbedion ar draws holl waith y Brifwyl,” meddai Elfed Roberts.

“Dros y misoedd diwethaf rydym wedi adolygu a gwerthuso holl brosiect Bro Morgannwg, ac unwaith eto eleni, rydym yn cyhoeddi’r adroddiad hwn ar ein gwefan ac yn gwahodd unrhyw un i anfon sylwadau neu syniadau atom yn sgil ei gyhoeddi.

“Yn ei hanfod, prosiect cymunedol yw’r Eisteddfod Genedlaethol; gŵyl genedlaethol i bobl Cymru wedi’i threfnu gan bobl ardal benodol, sy’n dathlu ein hiaith a’n diwylliant, gan symud o le i le bob blwyddyn, yn cynnig cyfle i drigolion ardal leol i arwain ar y gwaith o drefnu Prifwyl diwylliant Cymru.”

Mae copi o adroddiad Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg ar gael ar wefan yr Eisteddfod – www.eisteddfod.org.uk.