David R Edwards yn ei bomp
Bydd ffilm yn olrhain dyddiau cynnar un o’r bandiau mwya’ dylanwadol yn hanes pop Cymraeg yn cael ei dangos am y tro cyntaf heno. Mae Prosiect Datblygu i’w gweld dros bedair noson y penwythnos hwn yn Theatr y Mwldan yn Aberteifi.
Eleni mae’r grŵp tanddaearol Datblygu yn 30 oed, ac mae cerddorion megis Gruff Rhys a Dai Lloyd o’r band Skep gynt wedi son droeon am ddylanwad y band arnyn nhw.
Ar ganeuon fel ‘Cân i Gymru’ mae Datblygu yn cynnig golwg grafod, feiddgar ar y crachach Cymraeg. Ac mi wnaeth y Super Furry Animals recorio fersiwn ingol o gân ‘Y Teimlad’ gan Datblygu ar gyfer Mwng, eu halbym Gymraeg aeth i rif 11 yn y siartiau Prydeinig.
Eisoes mae rhaglenni radio ac eitemau teledu lu wedi bod ar y band, ynghyd ag arddongasfa mewn caffi yng Nghaerdydd i ddathlu’r pen-blwydd a chofio’r hanes.
A nos yfory fe fydd premiere rhan gyntaf Prosiest Datblygu, ffilm ddogfen am y band gan y cynhyrchydd Owain Llŷr fu’n gyfrifol am y gyfres Bois y Loris ar S4C.
“Mae’n anrhydedd bod rhywun wedi mynd i’r drafferth o wneud ffilm amdanom ni,” meddai David R Edwards, canwr Datblygu.
“Dim bo fi’n hoffi gweld fy hunan ar y teledu neu yn y sinema, ond mae’n neis bod rhywun wedi mynd ati i gofnodi deg ar hugain mlynedd o’r band.”
Mae Owain Llŷr yn cofio canwr digyfaddawd y band, David R Edwards, yn dod i’w ysgol uwchradd yn y 1990’au cynnar yn athro cyflenwi.
Ar y pryd roedd Owain Llŷr yn rhyfeddu gweld canwr Datblygu yn cerdded coridorau’r ysgol.
“Roedd e’n sefyllfa eitha’ od,” cofia. “Doedd Dave ddim yn newid ei gymeriad e lot pan oedd e’n dod i’r ysgol…roeddwn i’n clywed straeon fod y dosbarthiadau yn tueddu i fod yn eithaf anarchaidd.”
Fe ddechreuodd Owain Llŷr ffilmio’r cyfweliad cynta’ gyda David R Edwards ar Ebrill 29 y llynedd – diwrnod priodas Wil a Kate.
Mae’r ffilm orffenedig mewn dwy ran, gyda chyfraniadau gan aelodau’r band a cherddorion eraill megis Gareth Potter Tŷ Gwydr a John Griffiths Llwybr Llaethog.
Bydd y rhan gyntaf i’w gweld yn Theatr y Mwldan yn Aberteifi nos yfory, ac mae’r cynhyrchydd yn gobeithio mynd â hi ar daith wedyn.
Bydd y ffilm gyntaf yn canolbwyntio ar ddyddiau cynnar Datblygu hyd at ryddhau’r albym Libertino yn 1993, gyda lleisiau’r band a chyfranwyr yn dweud y stori heb unrhyw droslais.
“Mae’n bwysig adrodd stori Datblygu,” meddai Owain Llŷr.
“Rydw i’n ‘nabod Dave ers dros ugain mlynedd, ac mae e’n gymaint o raconteur, efo storis gwych i’w hadrodd.”
E.P. newydd hefyd
Ddydd Llun fe fydd Datblygu yn rhyddhau pedair cân newydd ar record feinyl saith modfedd.
Mae Darluniau Ogof o’r Ugeinfed Ganrif ar Hugain yn cynnwys pedair cân.
“ ‘Bywoliaeth’ yw enw’r gân gyntaf,” eglura David R Edwards.
“Ar raglenni cwiz maen nhw’n gofyn: ‘And what do you do for a living?’
“Ateb fi yw: ‘I live for a living’. Hynny yw, beth ydw i’n ei wneud am fy mywoliaeth? Rydw i’n byw – dyna’r ffordd mae’r gân yna’n datblygu.
“Wedyn mae’r ail gân yn gwrthddweud anthem tîm Lerpwl. Mae hwnnw’n dweud: ‘You’ll never walk alone’. A dw i’n dweud: ‘rydw i wastad yn cerdded yn unig.
“Ac mae’r trydydd cân, ‘Ffantasi’r Safonau’, yn gân serch swreal.
“Ac mae’r gân olaf yn ymosodiad ar y system addysg sydd ohoni yn 2012, lle mae myfyrwyr dan y lach yn mynd i coleg heb gael grant ac yn gadael mewn dyled.
“Mae’r gerddoriaeth yn wahanol i bob un cân. Rydan ni wastad wedi arbrofi gyda’r miwsig, a rydw i’n hapus iawn efo’r E.P. Roedden ni eisiau gwneud miwsig oedd yn wahanol i bopeth arall sydd yn y Gymraeg ar y funud, ac rydw i’n meddwl ein bod ni wedi llwyddo i wneud hynny.”
Fe fydd y 250 copi feinyl o’r E.P. yn cael eu gwerthu yn Theatr y Mwldan heno, a’r caneuon ar gael i’w lawrlwytho dros y We o ddydd Llun ymlaen.