Phillip Schofield
Mae’r Arglwydd McAlpine wedi cael iawndal o £125,000 gan ITV a Phillip Schofield ynglŷn â rhaglen This Morning ar 8 Tachwedd.
Mewn datganiad dywedodd ITV eu bod wedi dod i gytundeb gyda’r Arglwydd McAlpine ynglŷn â’i achos enllib, ac wedi cytuno i dalu £125,000 mewn iawndal a’i gostau cyfreithiol.
Roedd ’na feirniadaeth hallt o’r darlledwr ar ôl i gyflwynydd This Morning Phillip Schofield gyflwyno rhestr o enwau o bedoffiliaid honedig yr oedd wedi dod o hyd iddyn nhw ar y rhyngrwyd i’r Prif Weinidog yn ystod cyfweliad byw.
Mae Ofcom yn cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad, tra bod ITV yn dweud bod camau disgyblu wedi eu cymryd.
Mae ITV yn un o nifer o sefydliadau oedd wedi cysylltu’r cyn wleidydd gydag achosion o gam-drin plant yng ngogledd Cymru.
Daeth ei gyfreithwyr i gytundeb gyda’r BBC wythnos ddiwethaf am iawndal o £185,000 yn dilyn rhaglen Newsnight ar 2 Tachwedd oedd wedi ei gysylltu ar gam gydag achosion o gamdrin yng nghartref gofal Bryn Estyn yn Wrecsam.
Mae hefyd yn ystyried cymryd camau yn erbyn defnyddwyr Twitter.