‘Sgwn i os oes deunydd lyrics yma?

Ceri Wyn Jones, 2008

A dyma ddechrau’r drafodaeth, wrth i feirniad ‘Ysgoloriaeth Emyr Feddyg’ (Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a’r Cylch, 2008) wneud sylw craff am y ‘farddoniaeth’ roeddwn wedi ei chyflwyno yn fy nghais.

Yn wir, ychydig iawn o ‘farddoniaeth’ roeddwn yn ymwybodol ohoni pan ddechreuais sgwennu, a llai fyth yr oeddwn yn ei deall a’i mwynhau. Ond roeddwn wrth fy modd hefo lyrics neu eiriau caneuon, ac felly does dim syndod fod hyn wedi siapio fy ngwaith.

Yn fy arddegau, gwirionais â Jim Morrison a’i grŵp ‘The Doors’. Prynais lyfr am hanes y grŵp a phorais drwyddi’n llawen am oriau maith. Wnes i hefyd menthyg llyfr o’i farddoniaeth o lyfrgell y brifysgol, a teg yw dweud taw fe yw un o fy arwyr llenyddol.

Dyma gerddor a lyricist sy’n adnabyddus hefyd am fod yn fardd – neu o leiaf hunan-adnabod fel un; mi roedd yn hunangyhoeddi cyfrolau o farddoniaeth ac yn eu rhoi i ffrindiau. Mae cryn drafod wedi bod am deilyngdod ei farddoniaeth, ond mae o’n sicr yn rhan o wead y tapestri llenyddol. I mi, roedd yn pontio’r ddau fyd ac mae’n ffigwr pwysig iawn.

Y Talwrn â’r ‘Gân Ysgafn’

Fel rhan o fy ymgyrch ddiweddaraf i fod yn rhan o’r ‘sîn farddol Gymreig’, wnes i ymuno â thîm Talwrn (Tegeingl), a chefais fy début yn 2022. Gan nad wyf yn medru cynganeddu, roedd sawl categori na fedrwn gyfrannu iddi. Fodd bynnag, mae yna gategori ‘Cân ysgafn’ ac roeddwn wrth fy modd â hyn; teimlais yn hyderus y byddaf yn medru cyfrannu rhywbeth o werth.

Roeddwn wedi gweld clipiau fideo o Geraint Lovgreen yn canu caneuon digri ac es ati i lunio ‘cân’ wirion i trolio Aneirin Karadog eto fyth am y ffaith roeddwn eisiau gweld Gŵyl Gerallt yn dŵad i ardal Llangollen (er, roeddwn yn gwybod doedd hyn ddim yn bosib oherwydd y caiff ei chynnal bob blwyddyn yn yr ardal lle cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal).

Cafodd fy nghân ei beirniadu am wall o’r enw ‘camacennu’, a hynny am y ffordd yr oeddwn wedi odli ‘Glên’ hefo ‘Llangollen’. Doedd yr acen, neu’r pwyslais, yn y geiriau ddim yn gweithio yma – fysa ‘gwên’ neu ‘llên’ (neu’r ddau) wedi gweithio fel odl. Digon teg.

Ond flwyddyn yn ddiweddarach, roeddwn mewn trafferth eto, a hynny hefo fy nghân ysgafn ‘Y gêm genedlaethol’. Y tro hyn, y gair dan sylw oedd ‘genedlaethol’, ac nid yn unig roeddwn wedi ei gam-odli hefo ‘bol’ (gan roi’r pwyslais ar yr ‘ol’ yn hytrach na’r ‘lae’), ond roeddwn wedi plygu’r gair yma ac acw i ffitio tôn y gân fu’n sail iddi, sef Always look on the Bright Side of Life (Monty Python).

Yn hynny o beth, rwyf yn anghytuno braidd. Fel y dywedodd cyfaill i mi draw yn ‘Jam night’ y Saith Seren un noson, mae plygu geiriau yn rhan annatod o sgwennu caneuon – ac nid jyst amaturiaid fel fi ychwaith; yn wir, mi ddysgais gan rai o’r lyricists mwyaf adnabyddus!

Plygu geiriau

Gan fy mod wedi sôn am y brenin madfall yn barod, dechreuaf gydag enghraifft o’i emyn-gân ‘The End’:

This is the End,

Beautiful friend the End.

Cafodd yr acen ei symud o ‘ea’ i’r ‘i’ yma. Mae’r un peth yn wir am y gair ‘confidence’ yn The Winner Takes it all (Abba), a hynny i odli hefo’r gair ‘tense’ – twt twt, Björn Ulvæus!

Ac wrth ymchwilio’r mater, des i ar draws sylw ar fforwm oedd yn cwyno am ynganiad Glass oniON (The Beatles), sarKAZum (Pink Floyd/ Plant – Another brick in the wall), a’r shambls o gamacennu yn Walk like an Egyptian (The Bangles) – beltar o gân, serch hynny!

Gwelais hefyd fideo â dadansoddiad dygn o waith Taylor Swift, am le mae’r pwyslais neu’r acen yn y frawddeg neu linell, heb sôn am y geiriau!

Medrwn wedyn ystyried ‘Faaaashists’ gan y Manic Street Preachers…a Duw a helpo Kate Bush druan!

Chwythu yn y gwynt

Ond dwi’n credu daw fy hoff enghraifft o ddewin y geiriau a’r harmonica, fe â’r llais tywod a glud, Robert Zimmerman (Bob Dylan). Ia wir, a hynny yn ei gân anfarwol, arloesol ‘Blowin’ in the wind’. Ystyriwch linell 6:

Before they’re FORever banned

Oni ddylai’r acen fod ar yr ail sill (goben) fam’ma:

ForEVer

Mae’n altro natur yr ynganiad gymaint nes y bu raid i mi sbïo ar y lyrics i gael syniad o beth oedd y gair!

Difyr yw ystyried – a wnaeth Dylan ‘gamacennu’, neu a wnaeth o newid y pwyslais ar bwrpas? Ac a oes ots, yn enwedig mewn ‘cân’?

I gloi, felly, hoffwn ofyn i Feuryn Y Talwrn, gan fenthyg ei frawddeg o’i golofn ddiweddaraf, yn y rhifyn cyfredol o gylchgrawn Barddas: Ceri Wyn bach, os yw hi’n ddigon da i Dylan, siawns ei bod hi’n ddigon da i ninnau hefyd?