Mae yna “foddhad gwahanol” wrth ennill prif wobr cyfrwng Saesneg Llyfr y Flwyddyn, medd Caryl Lewis, yr awdur cyntaf i ddod i’r brig gyda nofelau yn y ddwy iaith.

Daeth cyhoeddiad mewn seremoni yn y Tramshed yng Nghaerdydd nos Iau (Gorffennaf 13) mai Drift, nofel Saesneg gyntaf yr awdur, dramodydd a sgriptiwr Cymraeg, yw enillydd y wobr eleni.

Enillodd Caryl Lewis y brif wobr Gymraeg yn 2005 gyda Martha, Jac a Sianco ac yn 2011 gydag Y Bwthyn.

Pridd gan Llŷr Titus oedd enillydd Llyfr y Flwyddyn 2023, tra bod Sgen i’m Syniad – Snogs, Secs, Sens gan Gwenllian Ellis wedi dod i’r brig yng nghategori Barn y Bobl golwg360.

Dechreuodd Caryl Lewis sgrifennu’n Saesneg tua phedair blynedd yn ôl, ar ôl meddwl am y peth ers “amser hir”.

“Mae rhaid i ti fel awdur wthio dy hun,” meddai wrth golwg360.

“Pan wyt ti wedi creu corff o waith, mae yna ychydig bach mwy o bwysau wedyn achos mae yna fwy o bobol yn adnabod y math o beth ti wedi sgrifennu.

“Roedd rhaid i fi fod yn eithaf dewr efo’n hunan i wneud y cam yna, ond roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n bwysig o ran Cymru bod yna gynrychiolaeth i awduron sy’n sgrifennu yn y ddwy iaith ac ein bod ni’n gallu dweud straeon ychydig yn wahanol yn y ddwy iaith, ac ein bod ni fel Cymry yn gallu agor allan ychydig o beth mae pobol yn meddwl am pan maen nhw’n meddwl am awduron Cymraeg.

“Roedd e’n gam mawr ond i ennill hwn wedyn am y tro cyntaf, mae’n anhygoel. Mae’n deimlad gwahanol. Mae yna foddhad gwahanol.”

Drift

Mae Drift yn pendilio rhwng arfordir Cymru a Syria ac effaith y rhyfel yno, ac yn stori am gariad, hunaniaeth, dod o hyd i adref a gwytnwch pobol.

Er bod y broses o ysgrifennu yn Saesneg wedi bod yr un fath ag yn Gymraeg, roedd y straeon roedd Caryl Lewis eisiau eu dweud “ychydig yn wahanol”, meddai.

“I raddau, pan mae rhywun yn sgrifennu yn yr iaith Gymraeg mae dy ddarllenwyr di’n gyfarwydd â’r themâu, felly roedd rhaid edrych ar y stori o berspectif rhywun sydd ddim yn gwybod cymaint am Gymru a’r iaith, diwylliant, gwleidyddiaeth ac yn y blaen, a cheisio edrych tuag at wledydd eraill a diwylliannau sydd dan warchae am wahanol resymau.

“Dw i’n meddwl mai dyna beth mae dwyieithrwydd yn gwneud i rywun, mae e’n rhoi ffenestr ychwanegol ar y byd ond mae e hefyd yn galluogi ti i adnabod breuder a beth sy’n cael ei golli trwy wahanol bethau fel pobol yn ddibwys am bethau neu ddim eisiau dysgu iaith neu, yn yr achos yma yn Drift, rhyfel hefyd.

“Mae’r nofel yn anffodus wedi dod yn fwy perthnasol ers i mi’i sgrifennu hi o ran Wcráin a’r ansicrwydd sydd yn y byd.”

‘Arf arall i ni Gymry Cymraeg’

Faint o her oedd symud at ysgrifennu yn Saesneg, felly?

“Fe wnes i orfeddwl y peth dw i’n meddwl, ond unwaith mae rhywun yn anghofio beth maen nhw’n trio’i wneud, mae’r peth yn llifo’n gwmws yr un fath,” meddai wedyn.

“Dw i’n meddwl bod yna ychydig o wahaniaeth a bod yna rythmau Cymreig yn dod mewn ac yn y blaen, ond dy lais di yw dy lais di, yr un pethau sy’n dy ddiddori di.

“Ond mae e jyst yn rhoi cyfleon ychydig bach yn wahanol a chael bod yn rhan o drafodaethau ychydig bach yn wahanol.

“Dw i’n awdur sydd wastad yn mynd i sgrifennu yn Gymraeg, allen i byth â pheidio.

“Mae gen i lyfr bach plant Cymraeg yn dod ma’s yn y Nadolig, ac mae gen i gyfrol flwyddyn nesaf o straeon byrion, felly mae e wastad yn rhan, ond mae hwn jyst yn arf arall, ac yn arf arall i ni Gymry Cymraeg hefyd i ddweud ein straeon ni.”

Llyr Titus a'i ddau dlws - am y ffuglen orau a Llyfr y Flwyddyn

Nofel Gymraeg fuddugol Llyfr y Flwyddyn yn cofio pobol ac yn dathlu cymuned

Alun Rhys Chivers a Lleucu Jenkins

Daeth Llŷr Titus i’r brig gyda’i nofel ‘Pridd’, sydd wedi’i lleoli ym Mhen Llŷn ac sydd wedi’i chyflwyno er cof am ei Nain

‘Pridd’, nofel Llŷr Titus, yn cipio gwobr Llyfr y Flwyddyn

‘Sgen i’m Syniad – Snogs, Secs, Sens’ gan Gwenllian Ellis sy’n cipio gwobr Barn y Bobl