Cafodd cân Lydaweg a Chymraeg newydd ei pherfformio am y tro cyntaf mewn digwyddiad yng Nghaerdydd yn ddiweddar.

Daeth cant o ddisgyblion o ysgolion ledled Cymru ynghyd i ganu yn Neuadd Hoddinott y BBC fel rhan o ddigwyddiad gafodd ei drefnu gan y Cyngor Prydeinig er mwyn dathlu dysgu ieithoedd drwy eu rhaglen Cerdd Iaith.

Pwrpas canu’r gân ddwyieithog ‘Aderyn / Lapous’ oedd dangos gallu cerddoriaeth i gysylltu cynulleidfaoedd gyda ieithoedd newydd drwy ddangos y tebygrwydd a’r berthynas rhwng treftadaeth Cymru a Llydaw.

Daw hyn wrth i’r Cyngor Prydeinig gydweithio â Llywodraeth Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru ar Flwyddyn Cymru yn Ffrainc.

Mae’r gân ‘Aderyn / Lapous’ yn chwarae gyda geiriau sy’n debyg neu’r un peth yn y Gymraeg a Llydaweg.

Cafodd ei hysbrydoli gan hen ddywediad Llydaweg – ‘Pep lapous e gan, pep pobl he yezh’, sy’n golygu ‘Mae gan bob aderyn ei gân, a phob cenedl ei hiaith’.

Mae’r ddeuawd hefyd yn fan cychwyn i brosiect cydweithio cerddorol rhwng Lleuwen Steffan, Brieg Guerveno a cherddorion eraill o Lydaw a Chymru.

‘Dathlu ieithoedd’

Wrth sôn am y perfformiad cyntaf o’r gân yn Neuadd Hoddinott, dywed Lleuwen Steffan ei fod yn ddigwyddiad “bendigedig”.

“Rydyn ni wedi bod yn dathlu ieithoedd rhyngwladol drwy raglen Cerdd Iaith ac yn llythrennol, cerddoriaeth iaith,” meddai’r gantores sy’n byw yn Llydaw.

“Gall cerddoriaeth fod yn ffordd bwerus o greu cysylltiadau ac agor y byd i bobol, yn enwedig i blan, a thrwy’r gân yma dw i eisiau archwilio’r elfennau cyffredin hwyliog rhwng y Gymraeg a’r Llydaweg a dangos y cysylltiadau rhwng y ddwy iaith a’r ddau ddiwylliant.”

‘Creu cysylltiadau’

Dywed Ruth Cocks, Cyfarwyddwr Cyngor Prydeinig Cymru, ei bod hi’n wych cael rhannu’r perfformiad cyntaf o’r gân ddwyieithog newydd a’i bod yn foment “berffaith” wrth ddathlu prosiect Cerdd Iaith.

“Mae creu cysylltiadau byd-eang drwy gelf wrth galon gwaith y British Council, ac mae’r ddeuawd yma’n enghraifft ddisglair o rai o’r cysylltiadau diwylliannol sy’n cael eu creu rhwng Cymru a Ffrainc drwy gydol y flwyddyn hon,” meddai.