Mae adroddiad newydd gan UK Music yn dangos bod twristiaeth sy’n seiliedig ar gerddoriaeth yn werth £218m i economi Cymru.
Yn ôl yr adroddiad, sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 18), mae Cymru wedi denu 510,000 o dwristiaid o ganlyniad i gerddoriaeth dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys 30,000 o dramor.
Mae’r diwydiant hefyd wedi creu 2,470 o swyddi.
Ymhlith y gwyliau cerddorol mwyaf poblogaidd yng Nghymru mae’r Dyn Gwyrdd, FOCUS Wales a Tafwyl, ac mae artistiaid mwya’r byd cerddoriaeth wedi bod yn perfformio mewn lleoliadau ledled Cymru, o Royal Blood yn Arena Abertawe i Little Mix yn y CIA a Lionel Richie yng nghastell Caerdydd.
Dydd Miwsig Cymru
Un o’r mentrau sy’n rhoi hwb sylweddol i gerddoriaeth Gymraeg yw Dydd Miwsig Cymru, sy’n cael ei gynnal ar ddydd Gwener cyntaf mis Chwefror.
Mae’r diwrnod yn ddathliad o’r sîn gerddoriaeth Gymraeg, gan arddangos doniau artistiaid o genres amrywiol, ac yn gyfle i gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg i gynulleidfaoedd newydd, yn enwedig siaradwyr Cymraeg newydd wrth i Lywodraeth Cymru dargedu Miliwn o Siaradwyr erbyn 2050.
Mae dros 70 albwm a 140 sengl wedi’u cyhoeddi yn Gymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf, a chaneuon artistiaid o Gymru wedi’u perfformio ar lwyfannau gwyliau cerddorol dros y byd.
Mae busnesau mawr a bach yn cefnogi’r diwrnod – gan gynnwys EE, Dŵr Cymru, M&S, Admiral, John Lewis, Waitrose, KFC, Co-Op, BT a Lush – drwy chwarae cerddoriaeth Gymraeg yn eu swyddfeydd a’u siopau, a rhannu rhestrau chwarae gyda’u cwsmeriaid a’u dilynwyr.
Cafodd mwy na 30 o gigs eu cynnal ym mhob cwr o Gymru, a thu hwnt, fel rhan o’r diwrnod eleni, ynghyd â gweithdai amrywiol.
Cronfa newydd
Cafodd cronfa newydd ‘Miwsig’ gwerth £100,000 ei chyhoeddi gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg, eleni hefyd.
Ei bwriad yw helpu hyrwyddwyr a grwpiau cymunedol i gynnal digwyddiadau byw drwy gynlluniau mentora a rhannu sgiliau, ac fe fydd yn canolbwyntio ar gefnogi cymunedau i greu gofodau cerddorol i ddefnyddio’r Gymraeg fel iaith gymunedol.
Yn ogystal, mae pôl Sound of Miwsig wedi’i sefydlu er mwyn cadw cofnod o’r artistiaid sydd wedi creu argraff ar arbenigwyr yn y diwydiant wrth dorri trwodd i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg eleni.