Mae cyfreithiwr o Fanceinion sydd wedi dysgu Cymraeg newydd lansio’i nofel Gymraeg gyntaf.

Dechreuodd Simon Chandler ddysgu’r iaith tua chwe blynedd yn ôl, a chafodd Llygad Dieithryn ei lansio yn Siop Lyfrau’r Hen Bost ym Mlaenau Ffestiniog neithiwr (nos Lun, Gorffennaf 17).

Wrth ymweld â Chymru gyda’i wraig a’i fab yn 2001, bu Simon Chandler yng Ngheudyllau Chwarel Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog, ac ers dechrau dysgu Cymraeg o ddifrif mae’n ystyried y dref fel ei “gartref ysbrydol”.

Nofel sy’n adrodd hanes Almaenes yn dod i Flaenau Ffestiniog yw Llygad Dieithryn, ac mae’r awdur yn dweud bod gwaith a haelioni’r hanesydd lleol Vivian Parry Williams wedi bod yn gymorth ac yn ysbrydoliaeth iddo.

Y bardd Aled Lewis Evans roddodd yr anogaeth arall iddo ysgrifennu, a dyma’i nofel gyntaf mewn unrhyw iaith.

“Roeddwn i’n awyddus yn sicr i sgrifennu nofel Gymraeg, dyna oedd un o’r pethau cyntaf wnes i feddwl amdanyn nhw ar ôl i fi ddechrau dysgu,” meddai Simon Chandler wrth golwg360.

“Oherwydd i fi ddechrau dysgu yn 52 oed, roeddwn i’n ymwybodol iawn o’r holl ddegawdau coll ac roeddwn i’n awyddus iawn i wneud iawn am yr holl amser hwnnw, felly roeddwn i’n treulio’r amser yn ceisio rhedeg cyn i fi allu cerdded mewn sawl agwedd ar yr iaith, a sgrifennu nofel oedd un ohonyn nhw.

“Yn y pen draw, es i ati i sgrifennu nofel ar ôl dysgu’r iaith am dair blynedd.

“Digwyddodd hynny ar ôl i fi gael fy ysbrydoli gan un paragraff yn llyfr Vivian Parry Williams, Stiniog a’r Rhyfel Mawr, oedd yn fesen yn y pen draw a dyfodd yn dderwen, a’r nofel oedd y dderwen.

“Flwyddyn yn ddiweddarach ar Faes [yr Eisteddfod] yn Llanrwst cwrddais i â fy ffrind Dani [Schlick] am y tro cyntaf yn y cnawd, ac ychydig funudau yn ddiweddarach cefais fy nghyflwyno i’r bardd a’r awdur Aled Lewis Evans, oedd yn gefnogol iawn.

“Rhoddodd e’r teimlad i fi bod gen i hawl i freuddwydio am wneud hynny.

“Roedd o wedi awgrymu i fi sgrifennu straeon byrion ar destunau wedi’u gosod mewn eisteddfodau lleol, ond cyfaddefais i mai fy mreuddwyd go iawn oedd sgrifennu nofel. Dywedodd e ‘Cer ati, pam lai’.

“Oherwydd bod gen i’r syniad gwreiddiol o’r flwyddyn gynt, roedd gen i bopeth, felly’n syth ar ôl i fi ddychwelyd i Fanceinion o’r Eisteddfod es i ati i lunio plot y nofel.

“Prynais ambell lyfr hanes i wneud mwy o waith ymchwil, ac es i ati fel lladd nadroedd. Roeddwn i wedi llunio plot y nofel erbyn diwedd mis Awst 2019; erbyn Nos Galan roeddwn i wedi cwblhau’r drafft cyntaf.”

Erbyn mis Gorffennaf 2020, roedd Simon Chandler wedi cyflwyno’r drafft i Wasg Carreg Gwalch a chafodd ymateb calonogol gan Myrddin ap Dafydd.

“Mae pawb wedi bod mor groesawgar a chalonogol tu hwnt, sy’n gwneud byd o wahaniaeth i ddysgwr sy’n breuddwydio ond sy’n meddwl nad oes ganddo hawl i freuddwydio,” meddai.

Gwella safon iaith

Bellach, mae Simon Chandler fwy neu lai wedi gorffen ei ail nofel Gymraeg hefyd, ond faint o her oedd mynd ati i ysgrifennu dair blynedd yn unig ar ôl dechrau dysgu iaith?

“Roedd hi’n wahanol gyda’r ail nofel, roeddwn i wedi cael yr holl brofiad o sgrifennu’r nofel gyntaf, o weithio gyda golygydd creadigol Gwasg Carreg Gwalch, Nia Roberts, roeddwn i wedi dysgu gymaint – roedd sgrifennu’r ail nofel llawer haws,” meddai.

“Yn achos y nofel gyntaf, roedd wrth gwrs fel dringo mynydd.

“Roedd yn anodd iawn, iawn ond y peth yw, yn enwedig yn ystod y pedwar mis o sgrifennu’r nofel go iawn, erbyn diwedd y cyfnod hwnnw roedd safon fy Nghymraeg wedi gwella gymaint oherwydd y broses.

“Bydden i’n sicr yn awgrymu i bob dysgwr, er mwyn gwella dy Gymraeg, sgrifenna nofel!”

  • Mae Llygad Dieithryn (Gwasg Carreg Gwalch) ar werth mewn siopau llyfrau nawr.

Y cyfreithiwr o Fanceinion sy’n sgrifennu nofelau Cymraeg… a llawer iawn MWY!

Cadi Dafydd

“Wrth i fi fyw yn Lloegr a gwrando bob dydd ar Radio Cymru, mae’n hawdd twyllo fy hun i feddwl bod Cymru’n wlad uniaith Gymraeg”