Mae Penny Thomas, cyhoeddwr y wasg plant a phobol ifanc Firefly Press, wedi sicrhau’r hawliau Saesneg byd-eang i gyhoeddi’r nofel i bobol ifanc The Five (Y Pump) gan Y Lolfa.

Cafodd Y Pump ei chyhoeddi’n wreiddiol fel cyfres o bum nofel dan arweiniad yr awdur a chynhyrchydd Elgan Rhys, gan ddefnyddio proses ysgrifennu arloesol oedd wedi uno awduron blaengar â chyd-awduron ifanc â phrofiad byw o’r pwnc.

Mae’r addasiad yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan un o’r awduron gwreiddiol, Mared Roberts, gyda mewnbwn gan yr awduron eraill.

Y Pump

Mae’r nofel yn canolbwyntio ar gyfeillgarwch pump o arddegwyr gwahanol iawn sy’n cael eu taflu at ei gilydd yn eu hysgol yng ngogledd-orllewin Cymru.

Mae Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat yn brwydro dros ei gilydd ac am eu lle yn y byd, a hynny wrth wynebu cythruddedd ac amgylchiadau personol heriol.

Gan gofleidio a gwyrdroi naratifau oedolion-ifanc confensiynol, mae The Five yn ddarlun unigryw a chyseiniol o fywyd pobol ifanc yng Nghymru heddiw.

Cafodd yr holl nofelau eu cyhoeddi’n wreiddiol gyda phrolog gan Manon Steffan Ros, colofnydd Golwg ac enillydd Medal Yoto Carnegie 2023, oedd yn fentor creadigol ar y gyfres wreiddiol.

‘Swyno a phlesio’

“Cawsom ein swyno a’n plesio gan y broses radical a’r brwdfrydedd y tu ôl i The Five, ac rydym yn falch iawn y byddwn yn gallu dod â’r nofel hon i ddarllenwyr Saesneg eu hiaith,” meddai’r cyhoeddwr Penny Thomas.

“Rwy’n falch iawn o gael cydweithio â Firefly i ehangu byd y pum cymeriad yma a chroesawu mwy o ddarllenwyr i’w bywydau,” meddai Elgan Rhys.

“Arbrawf oedd proses gydweithredol y gyfres wreiddiol, ac mae wedi bod yn braf gweld darllenwyr a’r diwydiant yn ei chofleidio.

“Rwy’n sicr y bydd addasiad Mared yn parhau i ysbrydoli pobol ifanc, yn enwedig y rhai nad ydynt efallai wedi arfer gweld eu profiadau’n cael eu portreadu’n awthentig.”

‘Darlun o Gymru fodern’

A dywedodd Darren Chetty o Books for Keeps,

“Rwyf wrth fy modd y bydd Y Pump yn cael ei gyfieithu i’r Saesneg,” meddai Darren Chetty o Books for Keeps.

“Mae The Five yn rhoi darlun o Gymru fodern, amrywiol ac fe’i grëwyd drwy broses arloesol, gydweithredol y gobeithiaf y gellir ei fabwysiadu’n ehangach mewn llenyddiaeth plant a phobol Ifanc.

“Mae’n stori aml-bersbectif a ysgrifennwyd gan awduron ifanc sydd wedi ymgolli yn genre a gwirionedd dod yn oedolyn yn yr oes sydd ohoni.”

Bydd y nofel yn cael ei chyhoeddi yn 2025.