Ers dysgu siarad Cymraeg gwta chwe blynedd yn ôl, mae cyfreithiwr o Fanceinion wedi ysgrifennu nofel Gymraeg, meistroli’r gynghanedd, creu cynllun i ddiogelu enwau tai, a rhyddhau dwy albwm yn Iaith y Nefoedd.
Mae Simon Chandler yn cyfaddef mai’r bum mlynedd ddiwethaf yw’r cyfnod mwyaf cynhyrchiol iddo’i gael erioed, wedi i’r Gymraeg agor sawl drws.
Wedi ei fagu yn Llundain, ac yn byw ym Manceinion ers dros 35 mlynedd, ei freuddwyd yw symud i Gymru ryw ddydd.
Cof cyntaf Simon o Gymru yw gwylio rhaglen ar y teledu pan oedd tua chwech oed yn trafod Nos Galan mewn tafarn yma.
“Cefais fy nghyfareddu, yr holl gysyniad o’r ysbryd cymunedol,” meddai.
“Cafodd hynny ei atgyfnerthu ugain mlynedd yn ôl, pan roeddwn i ar wyliau teuluol yn ardal Porthmadog. Roedd hi’n tywallt y glaw, ac roedd angen i ni ddod o hyd i rywbeth i ddiddanu ein mab. Sylweddolodd fy ngwraig ar dudalen hyrwyddo Ceudyllau Llechwedd [lle’r oedd chwarelwyr Blaenau Ffestiniog yn gweithio dan ddaear]…
“Roedd yn dröedigaeth… Ar ôl i fi fod yn yr hen weithfeydd a chlywed y recordiadau tanddaearol gyda lleisiau’r hen chwarelwyr a’r straeon am eu cymuned nhw, cymuned Gymraeg wrth gwrs gyda’i hysbryd gymunedol, cefais i fy ysbrydoli yn llwyr.
“Doeddwn i ddim yn meddwl bryd hynny y byddai’n bosib i fi ddysgu’r iaith, ac yn anffodus fe wnes i wastraffu pymtheg mlynedd arall cyn i fi ddechrau go-iawn.”
Ag yntau eisoes yn rhugl mewn Almaeneg, ac yn gallu cyfathrebu’n ysgrifenedig mewn Ffrangeg a Phortiwgaleg Brasil, dechreuodd Simon ddysgu Cymraeg gyda llyfr a chryno ddisgiau, cyn dod o hyd i diwtor “hollol wych” yn Llinos Griffin o Benrhyndeudraeth.
Bydd Simon yn dal i sgwrsio â Llinos yn wythnosol, ac roedd hi’n gymorth wrth iddo fwrw ati i ysgrifennu ei nofel Gymraeg gyntaf. Bydd honno yn cael ei chyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch y flwyddyn nesaf.
“Mae’n llythyr cariad at yr Eisteddfod Genedlaethol, mae’n nofel hanesyddol sy’n cyfuno diwylliant Cymru a’r Almaen,” meddai.
Nofel sy’n adrodd hanes Almaenes yn dod i Flaenau Ffestiniog yw Llygaid Dieithryn, ac mae Simon yn dweud bod gwaith a haelioni’r hanesydd lleol Vivian Parry Williams wedi bod yn gymorth ac ysbrydoliaeth iddo.
Ac mae hanner ffordd drwy sgrifennu ei ail nofel nawr, ac erbyn hyn mae’n gwirioni ar farddoni ar ôl darganfod podlediad Clera gydag Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury.
Doedd Simon ddim yn barddoni o gwbl cyn iddo ddysgu siarad Iaith y Nefoedd.
“Mae dysgu Cymraeg, fel yn achos pob dysgwr, wedi agor drws sy’n rhoi mynediad i fyd hollol wahanol, hollol ryfeddol. Dw i wedi gwneud pethau nad oeddwn i wedi breuddwydio amdanyn nhw o’r blaen, fel darganfod y gynghanedd,” meddai.
“Mae sawl person yn cwyno bod angen canu mewn cadwyni, ond i fi roedd hynny’n rhyddhad. Roedd rheolau’r gynghanedd yn rhoi syniadau nad oeddwn i wedi meddwl amdanyn nhw fel arall. Mae rheolau’r gynghanedd wedi rhoi adenydd i fi.”
Meistrolodd y grefft dan arweiniad Aneirin Karadog, ac englynion sy’n mynd â bryd Simon, a’r siawns i ddal hanfod eiliad, person neu olygfa mewn pedair llinell.
“[Dw i’n hoffi] dod o hyd i luniau prydferth o olygfeydd… y ffotograffydd Richard Jones, er enghraifft, o ardal Caernarfon, roedd o ddigon caredig i ganiatáu i fi selio englynion ar sawl llun ganddo. Roeddwn i’n ceisio adlewyrchu prydferthwch y llun yn yr englyn.”
Mae gan Simon golofn yng nghylchgrawn Barddas yn trafod englynion, a thrwy haelioni’r bardd Iwan Morgan o Lan Ffestiniog, mae sawl un o’i gerddi’n cael eu cyhoeddi yn y papur bro.
Mae talentau creadigol Simon yn ymestyn at gerddoriaeth hefyd, ac mae’n chwarae’r gitâr a chanu.
“Fwy neu lai chwe mis ar ôl i fi ddysgu Cymraeg roeddwn i’n mynychu digwyddiad mewn capel Cymraeg yn ardal Manceinion,” eglura Simon, sy’n gadeirydd grŵp cymdeithasol Cymraeg sy’n cwrdd yn fisol yn nhafarndai Manceinion, Grŵp Sgwrs a Pheint Manceinion.
“Ar ddiwedd y cyfarfod, cafodd yr anthem genedlaethol ei chanu. Rhaid i fi gyfaddef nad oeddwn i erioed wedi clywed y gân o’r blaen, mae cywilydd arna i i gyfaddef hynny. Unwaith eto cefais i fy ysbrydoli, ac roedd gen i deimlad o hiraeth. Saudade, dyna ydy’r gair ym Mhortiwgaleg, sy’n golygu’r union yr un peth.
“Roeddwn i wedi bod yn gwneud cerddoriaeth â dylanwad Brasil ers blynyddoedd maith. Fe wnes i ryddhau albwm o gerddoriaeth gyda dylanwad Brasil yn y Gymraeg o’r enw O Hiraeth i Saudade, gyda chymorth enfawr gan Llinos [Griffin], yn 2017.”
Daeth yr ail albwm, Tu Hwnt i’r Afon, yn 2021, a throdd at y bardd Aled Lewis Evans am gymorth gyda’r geiriau.
“Roedd hi’n bwysig i fi ofyn i bobol sydd wir yn ddawnus ar eu hofferynnau, felly Côr Aelwyd Manceinion sy’n canu ar un trac. Dyna beth rhyfedd arall am y byd Cymraeg, bod pobol yn eu hugeiniau cynnar yn barod i gyfeillachu gyda rhywun fel fi sy’n 58 bellach!”
Arbenigedd Simon o fewn y maes cyfreithiol yw trawsgludo masnachol (commercial conveyancing), sef y broses o wneud rhywun yn berchenog cyfreithiol newydd ar dir neu eiddo.
Felly, yn sgil ei ddealltwriaeth, aeth ati i ddatblygu syniad gyda Chymdeithas yr Iaith er mwyn diogelu enwau Cymraeg ar dai.
Syniad ‘Diogelwn’ yw bod gan unrhyw un yng Nghymru sy’n bwriadu gwerthu tŷ sydd ag enw Cymraeg yr hawl i ofyn i’w cyfreithiwr gynnwys cymal yn y cytundeb gwerthu er mwyn atal prynwyr rhag newid enw’r tŷ yn y dyfodol.
“Fe wnaeth y bardd a’r awdur Sian Northey drydar yn 2020 am ei bwriad i werthu ei thŷ. Roedd hi’n gofyn i bobol yn gyffredinol ar Trydar a oedd modd diogelu’r enw ar ôl iddi hi werthu’r tŷ,” eglura Simon.
“Oherwydd fy mod i’n gyfreithiwr sydd wedi arbenigo yn y maes trawsgludo masnachol, roedd gen i syniad. Fyddwn i ddim wedi meddwl am y peth fel arall. Daeth yn amlwg i fi bod modd diogelu enwau yn y gyfraith. Yn ddiweddar, mae wedi ymestyn i gynnwys enwau ar dir hefyd.
“Gellir dadlau bod pethau llawer mwy pwysig [y gellir eu gwneud] na hyn, ond dyna be dw i’n gallu cyfrannu ato oherwydd fy mhrofiad. Roedd yn rhaid i fi wneud yr hyn oedd o fewn fy ngallu.”
Fel un sydd dal yn byw dros y ffin, mae Simon yn cael ei wylltio o’r newydd bob tro mae’n ymweld â Chymru yn sgil newid enwau a’r defnydd o Saesneg.
“Wrth i fi fyw yn Lloegr a gwrando bob dydd ar Radio Cymru, mae’n hawdd twyllo fy hun i feddwl bod Cymru’n wlad uniaith Gymraeg. Mae’r realiti yn anodd ei dderbyn bob tro.”
Er bod gan Simon ddiddordeb mawr mewn ieithoedd, does yna’r un iaith iddo “ar wahân i’r Gymraeg”.
“Mae’r Gymraeg yn sefyll ar ei phen ei hun. Mae hi, wrth gwrs, yn llawer mwy nag iaith. Dw i’n cael fy syfrdanu bob dydd at ddyfnder fy nheimladau, fy nghariad tuag at yr iaith.”