Bob hyn a hyn mi fyddwn ni’n codi’r wal dalu – pay wall – ar erthyglau a cholofnau cylchgrawn Golwg. A dyma gyfel i chi fwynhau colofn Natalie Jones…

Mae Taid Morris yn eistedd yn dawel yn ei gysegr o heddwch, yr ystafell ffrynt. Rwy’n ei wylio am eiliad yn syllu allan o’r ffenestr. Mae’n sylwi arna i ac yn dweud “Helo” yn siriol. Rwy’n eistedd wrth ei ymyl ac yna, mae’n gofyn y cwestiwn yr wyf wedi bod yn gobeithio na fyddai byth yn dod: “Pwy wyt ti?”

Mae fy nghalon yn torri wrth i mi ei atgoffa’n dyner pwy ydw i wrth geisio peidio ag edrych yn drist. Rwy’n estyn am yr albwm lluniau ac rydym yn edrych trwyddo gyda’n gilydd, gan hel atgofion.

Yn ôl y Gwasanaeth Iechyd, mae tua 42,000 o bobl yng Nghymru yn dioddef o ddementia. Mae’n effeithio ar bobl dros 65 oed yn bennaf ac, yn bryderus, gall ddechrau cyn i’r symptomau ddod yn amlwg. Y math o ddementia y mae Taid Morris yn ei brofi yw dementia fasgwlaidd.

Mae’n cael ei achosi gan bibellau gwaed yn yr ymennydd yn culhau, gan adael y person mewn perygl mawr o gael strôc gan arwain at ddisgwyliad oes o tua phum mlynedd ar ôl diagnosis. Mae’r symptomau’n cynnwys: anhawster gyda chynllunio a deall; problemau canolbwyntio; newidiadau i’ch hwyliau, personoliaeth neu ymddygiad; teimlo’n ddryslyd; anhawster cerdded a chadw cydbwysedd; problemau gyda’r cof a’r iaith.

Nain a Thaid Natalie

Fel teulu rydym wedi gweithio’n galed i geisio arafu effaith y cyflwr ar Taid Morris. Fodd bynnag, ei wraig 86 oed – fy nain – sy’n dioddef effeithiau ei salwch yn ddyddiol ac yn gweld y dyn y priododd yn llithro i ffwrdd.

Dawnsio i fiwsig Ska

Weithiau, ni fyddech yn dyfalu bod unrhyw beth o’i le, gan ei fod yn canu i fiwsig Ska ac yn penderfynu codi a dawnsio. Droeon eraill, mae’n gweiddi’n ymosodol nerth ei ben oherwydd “mae rhywun wedi symud fy Nhocyn Bws”. Yr eironi yw nad yw wedi bod ar fws ers dros dair blynedd. Nid yw’r eironi yn stopio yno.

Gall ddweud wrthym sut, yn ôl yn Jamaica, byddai ef a’i ffrindiau yn gwneud bat pêl allan o bren i chwarae criced oherwydd nad oedden nhw yn gallu fforddio prynu bat. Gall ddweud wrthym gam wrth gam sut i blannu a thyfu reis. Gall ddweud wrthych sut, yn wyth oed, yr oedd yn gweithio yn siop ei Anti yn paratoi coco ac weithiau’n dwyn o’r siop i fwydo plant newynog y dref oedd heb ddim. Ond nid yw’n cofio pa mor hen ydyw, sut i ddefnyddio’r offer yn y gegin, na phryd wnaeth o fwyta ddiwethaf.

Pan ddaw’r gofalwr i olchi, trin a newid y gorchuddion ar ei goesau, mae’n ypsetio weithiau wrth gael ei dywys i’r ystafell ymolchi gan fenyw. Mae’n codi cywilydd arno fe ac mae e’n protestio: “Dydw i ddim yn blentyn! Nid oes angen i unrhyw fenyw ddweud wrthyf pa bryd i ymolchi.”

Yna mae yna amseroedd pan fydd yn edrych arnoch chi ac yn dweud: “Mae fy ymennydd wedi mynd. Dydw i ddim yn dda.” Dyna pan fyddaf yn newid y pwnc ac yn ceisio ei atgoffa o ryw adeg hapus, pan oedd yn gwybod ei fod yn rheoli ei fywyd ei hun ac yn gwybod ei fod yn cael ei werthfawrogi. Rwy’n dweud wrtho ein bod yn dal i fod ei angen ac rwyf eisio erfyn arno i beidio â diflannu’n llwyr.

Digrifwch

Mae yna eiliadau anhygoel o ddigrif hefyd. Yn ddiweddar, mae wedi mynd ati i wneud sylwadau gyda balchder ar swmp hael pen-ôl Nain! Mae’n cymryd clod am y basgedi crog hardd a’r blodau mae hi wedi gofalu amdanyn nhw; ac, yn adamant nad fe wnaeth fwyta’r gacen honno – er mai ef wnaeth!

Mae 11 mlynedd ers i Taid Morris gael ei ddiagnosis, ac yn 89 oed mae’n edrych fel dyn yn llawer iau na’i flynyddoedd. Mae’n brawf byw – er gwaethaf y poen, y pyliau o ddryswch, iselder a dicter – bod safon uchel o ofal a llawer o gariad yn gallu effeithio’n gadarnhaol ar ansawdd bywyd yn ogystal â disgwyliad oes claf dementia. Mae e dal yn gwybod pan dw i’n poeni. Mae’n fy rhoi yn fy lle trwy ddweud: “Paid â phoeni babi. Pam poeni, pan fedri di weddïo?”

Cylchgrawn Golwg yn ddigidol ar y We

Os ydych chi eisiau darllen erthyglau cylchgrawn Golwg ar y We, ewch i fan hyn:

Tanysgrifiwch i Golwg a Golwg+ (360.cymru)