Fe wnaethoch chi sôn am sancteiddrwydd bywyd.

Dweud fy mod i’n fam yn barod, fy mod i wedi dod yn fam cyn gynted ag oeddwn i wedi gweld y linell fach las ar y prawf. Dweud fy mod i wedi fy mendithio, er bod y cyfan, o’r dechrau un, wedi teimlo fel boddi. Fe wnaethoch chi’n siŵr fy mod i’n gwybod fod gan ferched beichiog fel fi ddau ddewis – bod yn santes neu fod yn bechadures.

Felly fe benderfynais i simsanu fy myd er mwyn ffitio o fewn cyfyngiadau eich moesoldeb chi.