Mae arddangosfa go arbennig newydd agor yn Llandudno, gyda thri artist o Gymru yn cael arddangos eu gwaith wrth ochr 14 o artistiaid rhyngwladol…

Fel ‘17 cartograffydd’ y mae Oriel Mostyn yn cyfeirio at yr 17 o artistiaid sydd yn rhan o’r arddangosfa newydd Atlas Dros Dro: Mapio’r Hunan yng Nghelf Heddiw a fydd i’w gweld yno tros fisoedd yr haf.