Mae’r Torïaid yn San Steffan yn “casáu Cymru a gweithwyr”, yn ôl Cwnsler Cyffredinol Cymru, Mick Antoniw.

Daw ei sylwadau yn sgil cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddileu cyfraith gafodd ei phasio gan Senedd Cymru.

Mae’r cynlluniau yn rhan o ymdrech Llywodraeth San Steffan i wneud streiciau yn llai effeithiol, a daeth i’r amlwg y byddai eu hymdrechion yn berthnasol i Gymru hefyd.