Mae’r wal dalu wedi ei chwalu ar gyfer y golofn hon, i bawb gael blas o arlwy’r cylchgrawn…
Yn y dechrau roedd hi’n boenus gwylio Suella Braverman.
Nawr mae’n gwneud i’m gwaed ferwi!
Sut nad yw’r Ysgrifennydd Cartref, sydd hefyd yn fargyfreithiwr, yn deall hawliau dynol sylfaenol na hyd yn oed hanes trefedigaethol sylfaenol?
Cefais fy magu yn meddwl nad oedd gwleidyddiaeth yn fusnes i mi. Ond nawr dw i’n gweld, os ydych chi eisiau byw mewn cymdeithas deg a chyfiawn, ni allwch anwybyddu’r hyn y mae gwleidyddion yn ei wneud ac yn ei ddweud. Mae yna ormod o wleidyddion sy’n anghofus neu’n ddifater am fywydau pobl gyffredin.
Fel menyw o liw, dylai gweld pobl Ddu a Brown yn llywodraeth Prydain fod yn achos llawenydd ac yn rhoi gobaith am gyfle i gael cymdeithas decach.
Yn lle hynny, gwelwn unigolion sy’n ymdrechu am swyddi o bŵer wrth anwybyddu rhwystrau hiliol yn llwyr er mwyn datblygu eu gyrfaoedd eu hunain.
Mae Erthygl 14 o Ddatganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol 1948 yn nodi:
“Mae gan bawb yr hawl i geisio a mwynhau mewn gwledydd eraill loches rhag erledigaeth. Mae’n cynnwys yr hawl i beidio â chael eu dychwelyd i fan lle maent mewn perygl o gael eu herlid. Mae hefyd yn cynnwys yr hawl i beidio â chael eu cosbi am fod mewn gwlad neu ddod i mewn i wlad heb ganiatâd lle mae hyn yn angenrheidiol er mwyn iddynt geisio a derbyn lloches.”
Felly, mae’n hollol amlwg bod chwilio am loches yn hawl dynol sylfaenol. Byddech yn meddwl felly, y byddai’r Ysgrifennydd Cartref yn sylweddoli bod defnyddio geiriau fel “illegal migration” wrth gyfeirio at bobl sy’n peryglu eu bywydau mewn cychod bach i gyrraedd ein glannau, yn gwbl anghywir. Yn ogystal â hyn, mae Amnest Rhyngwladol y Deyrnas Unedig nodi yn 2019:
“Ers blynyddoedd lawer, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn ddiysgog yn ei gwrthodiad cyffredinol i rannu cyfrifoldeb am dderbyn a darparu lloches i bobl sy’n cael eu gorfodi i ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth. Mae ymhell iawn y tu ôl i wledydd mwyaf yr Undeb Ewropeaidd fel Ffrainc, yr Almaen a Sbaen a hyd yn oed ymhellach y tu ôl i wledydd fel Iran, Libanus ac Uganda yn ei hymrwymiad i ddarparu man diogel. Oherwydd nad oes llwybrau diogel a chyfreithlon i’r Deyrnas Unedig, mae llawer o fenywod, dynion a phlant yn cael eu gorfodi i roi cynnig ar deithiau peryglus a cheisio cymorth smyglwyr er mwyn arfer eu hawl i geisio a mwynhau lloches yn y Deyrnas Unedig.”
Mae ein llywodraeth yn siomi pobl ac yn ychwanegu at drawma ofnadwy, ond byddai’n well gan ein Hysgrifennydd Cartref siarad am y rhai ar y Chwith sy’n credu y dylai lliw ei chroen a’i threftadaeth ei hatal rhag siarad ‘y gwir am ymfudo’. Ond dyna ble mae’r broblem. Y Gwir!
Yn ôl Suella Braverman, yr Ymerodraeth Brydeinig oedd yn gyfrifol am isadeiledd, y system gyfreithiol, y gwasanaeth sifil a’r fyddin yn Kenya. Ie, Suella? Nid wyf yn siŵr a fyddai pobl Kenya yn gwerthfawrogi’r diffyg gwybodaeth am eu sgiliau ffermio, masnachu rhyngwladol, adeiladau cywrain a gwaith haearn ymhell cyn i’r Ymerodraeth Brydeinig erioed fodoli. Mae hanes yn awgrymu eu bod yn gwneud yn iawn cyn i wahanol wledydd Ewropeaidd, gan gynnwys y Prydeinwyr, ymladd yn eu herbyn nhw i gymryd rheolaeth.
I’r bobl sy’n ei chalonogi ac yn cymeradwyo ei datganiadau o ‘falchder yn yr Ymerodraeth Brydeinig’ ac nad ydynt yn teimlo’r angen i ymddiheuro am hynny, byddwn yn gofyn: ‘Beth yr ydych yn ei gymeradwyo mewn gwirionedd?’ Er na allwn newid y gorffennol, gallwn fod yn synhwyrol ynghylch yr hyn y dylem ymfalchïo ynddo heddiw. Ai ymddygiad gwlad fawr gwyn a ddaeth yn gyfoethog trwy wthio pobl oddi ar eu tir? A ddylem fod yn falch bod Kenyans wedi’u hatal rhag tyfu coffi neu unrhyw beth arall a fyddai’n rhoi tegwch iddynt? A ydych chi’n cymeradwyo Putin am yr hyn y mae’n ei wneud yn Wcrain?
I mi, mae’n hynod drist bod gennym lywodraeth yn clodfori ‘hen ddyddiau da’ cyfundrefn oedd yn hawlio a bwlio. Mae’n arwain at normaleiddio gweithredoedd a rhethreg sy’n dad-ddyneiddio’r bobl fwyaf agored i niwed ar y blaned.