Mae Golwg wedi codi’r wal dalu ar y golofn hon, er mwyn i bawb gael blas ar arlwy’r cylchgrawn…
Gwên fawr. Dreadlocks sy’n llifo’n hir. Croen brown tywyll perffaith wedi’i amlygu gan grys gwyn disglair. Dyma’r llun o Chris ‘Zazi’ Campbell a fydd gennai am byth.
Wnes i gwrdd â Chris drwy Gyngor Hil Cymru, mewn cyfarfod ar-lein am weithgareddau i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl Dduon yng Nghymru, a sylweddolais yn syth fod ganddo lawer o brofiad bywyd. Roedd rhai o’i sylwadau wedi ennyn fy niddordeb, ac roeddwn i eisiau gwybod mwy amdano.
Cysylltais ag ef ar ôl y cyfarfod a darganfod bod ei fam, fel fy un i, wedi cael ei geni yn Jamaica. Ac fel fi, cafodd Chris ei eni ym Mirmingham. Roeddwn i’n credu yn y dechrau bod ein bywydau yn debyg iawn, ond roeddwn i’n anghywir! Y tu hwnt i’n treftadaeth, roedd ein bywydau wedi mynd i gyfeiriadau gwahanol iawn.
Priododd fy mam â Chymro gwyn, a symudon ni allan o’r ddinas fawr yng nghanolbarth Lloegr i dref Gymreig fechan pan oeddwn yn naw oed.
Yn naw oed, roedd Chris dal yn cael ei fagu gan ei fam sengl, ochr yn ochr â brodyr a chwiorydd. Roeddent wedi cael eu hailgartrefu mewn ardal ‘gwyn’ gan mai slym anaddas ar gyfer magu plant ifanc oedd eu cartref cyntaf.
Roeddent wrth eu bodd â’u cartref newydd, ond daeth â phris hynod emosiynol. Roedd y National Front yn amlwg iawn yn gyhoeddus ac yn dangos eu dicter at gael teulu Du yn y stryd. Soniodd Chris am ddigwyddiad pan safodd grŵp o bobl wynion o flaen eu drws, gan fynnu eu bod nhw’n gadael. Canodd rhai ohonyn nhw: “N——! N——-! Llyfwch fy sgidiau, cyn i mi eich anfon yn ôl i’ch gwreiddiau!”
Bu Chris yn disgrifio’r ofn wnaeth y dorf achosi wrth chwerthin a gweiddi ar y teulu. Sylweddolodd ei fam, pe bai hi’n caniatáu hyn, na fyddai’r bygythiad hwn byth yn dod i ben. Felly casglodd ei phlant ac mi wnaethon nhw sefyll wrth y drws ffrynt, gyda’r fam yn sefyll ar y blaen yn gafael yn ei chyllell gegin fwyaf. Roedd hi’n sgrechian ar y dorf – os oedden nhw eisiau i’w theulu fynd, byddai’n rhaid iddyn nhw eu lladd nhw i gyd, yn y fan a’r lle! Ond byddai’n rhaid iddynt fynd drwyddi hi gyntaf, oherwydd dyma oedd eu cartref, ac ni fyddai’n gadael heb ymladd. Wedi’r cyfan, nid oedd ganddynt unrhyw le arall i fynd.
Bu farw mam Chris sawl blwyddyn yn ddiweddarach, ar ôl i’w phlant dyfu i fyny a gadael cartref, yn y tŷ hwnnw y bu iddi ei amddiffyn mor ddewr. Erbyn diwedd ei hoes, roedd wedi dod yn aelod oedd yn cael ei pharchu gan y gymuned.
Aeth Chris i ysgol uwchradd i fechgyn yn unig. Roedd e’n un o ychydig iawn o blant Du ac Asiaidd yn yr ysgol honno. Roedd yn cofio cael ei osod ar wahân yn barhaus a chael ei gosbi.
Y gosb oedd cael ei daro â phren mesur a’i guro â’r gansen. Gofynnais iddo beth oedd y camymddwyn wnaeth arwain at y cosbi corfforol.
“Gofynnais y cwestiynau nad oedd yr hawl gennai i’w gofyn,” meddai Chris.
Roedd bob amser eisiau gwybod ‘Pam?’ ac yn herio’r persbectif yn yr adroddiadau hanesyddol a gafodd gan ei athrawon. Roedd hefyd yn cael trafferth i eistedd yn llonydd a darllen. Llawer o flynyddoedd yn ddiweddarach fe gafodd esboniad tros ei drafferth darllen – roedd e’n ddyslecsig.
Yn 13 oed, penderfynodd Chris na allai gymryd y cam-drin roedd o’n wynebu bob dydd yn yr ysgol mwyach, ac addawodd na fyddai byth yn mynd yn ôl yna. Teimlodd fod hyn yn golygu hefyd na allai fyw gartre ddim mwy chwaith. Aeth i fyw a chael ei addysg mewn Prif Synagog Rastaffaraidd. Yno gallai fod yn fo’i hun. Gallai ddathlu ei dreftadaeth a dysgu am y byd o safbwynt nad oedd yn portreadu pobl Ddu fel rhai israddol. Am gyfnod, roedd yn teimlo’n ddiogel.
Symud i Gymru ac ysbrydoli
Pan oedd Chris yn 14 oed, ymosododd wyth bachgen gwyn arno fe a’i ffrind. Fe wnaethon nhw ymladd eu ffordd allan a rhedeg i ffwrdd. Ond, hanner awr yn ddiweddarach, arestiwyd Chris gan yr heddlu am ymosod, ac fe gafodd ei roi mewn cartref plant a’i gadw yno nes ei fod yn 16. Yna cafodd ei gyhuddo’n ffurfiol am yr ‘ymosodiad’ a ddigwyddodd flwyddyn a hanner ynghynt a’i roi mewn canolfan i droseddwyr ifanc. Yn fanno, roedd yn cael ei gam-drin yn hiliol yn rheolaidd gan y swyddogion oedd yn ei oruchwylio. Oedolion a fyddai’n ei alw ef, ac unrhyw fachgen Du arall yno, yn ‘Sambo’.
Dywedodd Chris ei fod wedi dysgu o oedran cynnar nad oedd ots a oeddech chi wedi cyflawni trosedd ai peidio, os oedd yr heddlu eisiau eich cosbi, byddent yn gwneud hynny. Yn ystod ein sgwrs, roedd Chris yn cyfaddef iddo gyflawni mân droseddau yn dilyn y cyfnod hwn, oherwydd, pa wahaniaeth fuasai hynny’n wneud? Roedd e’n mynd i gael ei gyhuddo beth bynnag, ac roedd angen iddo oroesi rywsut.
Am nifer o’i flynyddoedd yn oedolyn, roedd Chris yn cael ei stopio a’i chwilio neu ei arestio’n rheolaidd. Weithiau, meddai, byddai’n cael ei arestio am droseddau yr oedd wedi’u cyflawni, ond yn bennaf, am droseddau ffug neu rai wedi eu cyflawni gan eraill. Yn y diwedd, penderfynodd ei fod eisiau bywyd mwy cynhyrchiol.
Roedd e eisiau helpu i atal ei blant ei hun a phobl ifanc eraill rhag cael yr un profiadau llym. Symudodd i Gymru a chysegru ei fywyd i wneud hyn. Roedd yn frwdfrydig dros ‘Shared World History’. Gweithiodd yn ddiflino i ddod ag ysbrydoliaeth i gymunedau, gan eu helpu i archwilio a deall eu hunaniaeth eu hunain a deall sut i barchu hunaniaeth pobl eraill.
Gan weithio yn ymgynghorydd i’r heddlu, ysgolion, ac elusennau, daeth o hyd i amser hefyd i gefnogi cyn-filwyr rhyfel. Yn hytrach na chanolbwyntio ar yr anghyfiawnder ddioddefodd gan sefydliadau Prydeinig, edrychodd am ffyrdd i gymryd rhan a’u helpu nhw i wneud yn well. I mi, roedd gweithio gydag ef bob amser yn brofiad grymusol a phositif.
Dychmygwch felly, fy ngholled i, a thor calon ei deulu, ei gymuned, a’i ffrindiau, pan ar 7 Hydref, y cawsom y newyddion ei fod wedi marw’n sydyn.
Dim ond pum diwrnod ynghynt, er ei fod yn teimlo’n sâl, roedd Chris wedi bod yn Amgueddfa Genedlaethol Sain Ffagan, yn cefnogi digwyddiad ‘Hanes Pobl Dduon 365’ Cyngor Hil Cymru i rymuso pobl ifanc. Fe wnaeth fy ngwtshio, a siarad am weithio ar brosiectau eraill yn y dyfodol.
Roedd Chris wedi rhoi cymaint o’i hun, ond roedd ganddo fwy o hyd yr oedd am ei rannu. Rwy’n wirioneddol ddiolchgar fy mod wedi cael ei adnabod, a byddaf, ynghyd ag eraill, yn parhau i weithio i atal y math o anghyfiawnderau a ddioddefodd. Roedd Chris yn gynnes, yn ddoeth a wastad yn barod i roi ei amser i bobl eraill, er gwaethaf y ffordd yr oedd y byd wedi ei drin. Bydd bob amser yn ysbrydoliaeth i mi a llawer o rai eraill.
Mae modd i chi gyfrannu at waith Cyngor Hil Cymru yn amlygu hanes pobol Dduon Cymru drwy fynd i
Fundraiser by Uzo Iwobi CBE : Black History Wales Fund for Mr Campbell (gofundme.com)