Cyfres yn dathlu Mis Hanes Pobl Ddu oedd Aur Du, a ddarlledwyd ar S4C yr wythnos diwethaf. Cyfweliadau byr o dan ofal Mali Ann Rees. Sgwrsiodd Mali â’r gantores a’r cyflwynydd, Aleighcia Scott; yr academydd, Emily Pemberton; y dyn busnes a’r cyn-chwaraewr rygbi, Nathan Brew; a’r athrawes a cholofnydd Golwg, Natalie Jones.