Mae gennym Lywodraeth o’r diwedd. Ac mae’n debyg y bydd Rishi Sunak yn llwyddo i gadw ei swydd am fwy na 44 diwrnod, wrth arwain y Ceidwadwyr tuag at yr Etholiad Cyffredinol nesaf yn 2025 (fan bellaf). Yn wir, mae’n debyg y gallai gerdded i lawr Whitehall yn borcyn, ac aros yn Brif Weinidog, cyn lleied fydd awydd y Ceidwadwyr i fynd ati i chwilio am arweinydd arall.