Mae ’na rywun wedi creu Guto Ffowc, ac wedi ei osod ar ben y pentwr o frigau a boncyffion a phalets pren fydd yn goelcerth ar nos Sadwrn. Mae o’n well na’r Guto arferol, yn fwy realistig. Fe aeth rhywun i’r drafferth o siapio’r coesau dan y trowsus brown, fel fod plygion y pengliniau yn glir. Mae ganddo ddwylo realistig – oddi ar hen fodel dillad o siop, mae’n siŵr – ac mae’r gwallt, am unwaith, yn wig go-iawn.