Yn hwyr neu hwyrach, mi fydd rhaid i ni i gyd gyfadde’ yr hyn yr yden ni eisoes yn ei wybod ym mêr ein hesgyrn: dydi’r Gwasanaeth Iechyd a’r gwasanaethau gofal ddim yn gweithio.

Nid y syniad sy’n methu (mae gofal iechyd am ddim i bawb yn ddelfryd realistig o hyd) ac nid y staff (dw i wedi cael triniaeth dda iawn sawl gwaith yn ystod y blynyddoedd diwetha’); y drefn ydi’r broblem, a hynny ynghlwm wrth ddiffyg adnoddau yn y mannau iawn.