Mae yna Wyddel draw yng Nghaerdydd sydd eisiau i bawb gyfeirio at ein tîm pêl-droed cenedlaethol fel Cymru, a dim ond Cymru.

Ar ben hynny, mae Noel Mooney wrthi yn dysgu siarad Cymraeg ac wedi gosod her gyhoeddus iddo’i hun – medru deall ac ateb cwestiynau yn Iaith y Nefoedd yn y Steddfod Genedlaethol ym Mhen Llŷn y flwyddyn nesaf.

Hefyd yn 2023 mae Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru am gynnal sgwrs genedlaethol ar y busnes yma o newid enw’r tîm i Cymru.