Mae’r rhaglen deledu Prosiect Pum Mil wedi trawsnewid y Cwt Band yn Llanrug, diolch i fachgen ifanc o’r enw Llew Jones.
Y cwt band yw man ymarfer Seindorf Arian Llanrug, sy’n un o fandiau hynaf Cymru.
Bu bron i’r band orfod rhoi’r gorau iddi gan nad oedden nhw’n gallu recriwtio aelodau newydd.
Gyda Covid yn her ychwanegol dros y blynyddoedd diwethaf, dechreuodd y band gael ei ailadeiladu ac mae cael y Cwt Band am fod yn hwb enfawr i’r gymuned a phobol ifanc.
Ac yntau’n ffan o Prosiect Pum Mil, roedd Llew Jones, oedd yn cael gwersi gan arweinydd y band Graham Williams ac a fydd yn mynd i mewn i’r ail flwyddyn yn Ysgol Brynrefail ym mis Medi, wedi gweld y potensial i’r Cwt Band gael ei ddatblygu ar gyfer Seindorf Arian Llanrug.
Cafodd y syniad ei gymeradwyo gan Prosiect Pum Mil, a chafodd gwelliannau mawr eu gwneud i’r cwt band.
“Daeth Llew i mewn i gael ei wers un diwrnod yn y Cwt Band, ac mi oedd o yn y band bach,” meddai Graham Williams wrth golwg360.
“Rhoddais wers iddo ac yn ganol y wers pan oedd yn parablu siarad efo fi, gofynnodd “Ti wedi gweld Prosiect Pum Mil?”
“Naddo,” medda fi.
“Dyna fo’n dweud, “Maen nhw’n gwneud pethau da. Maen nhw’n gwneud hyn, maen nhw’n gwneud llall”.
“Wela i beth ydy o, rwy’n deall,” medda fi.
“Dywedodd, “Efallai y bydda fo’n syniad da i fand Llanrug wneud rhywbeth.”
““Mae hynny’n syniad da” medda fi.
“Ddoth o mewn yr wythnos wedyn a daeth ei dad efo fo.
“Dyma fi’n dweud, “Mae Llew wedi meddwl am syniad da”.
“Pam wnawn ni ddim rhoi cais mewn i Brosiect Pum Mil gan fod ni’n ail adeiladu’r band?”
“Rydym angen help i godi pethau ar eu traed ac i godi proffil y band, a hyn a’r llall.”
““Iawn”, medda fo, ac mae o’n gweithio i’r BBC.
“Felly gwnaeth o sgwennu llythyr i Prosiect Pum Mil, neu e-bost, yn gofyn a fysen nhw’n cynnwys ni yn y rhaglen.
“Cafon ni ateb yn ôl yn dweud “Ydyn, mi ydyn ni, mi ddown ni i weld chi”.
“Wedyn cafon ni gyfarfod efo’r staff Pum Mil, Boom a gwnaethon nhw ddweud, “Ia, iawn, mae’n swnio i ni fel bod gennych chi rywbeth gwerth rhoi mewn rhaglen ac rydych yn elusen sy’n haeddu cael help gan y rhaglen”.
“Mae hynny tua phum, chwe mis yn ôl.
“Rydym wedi bod yn siarad efo nhw a thrafod.
“O hynny ymlaen, gwnaethon ni roi pethau at ei gilydd o ran beth roedden ni eisiau, beth oedd y gwelliannau roeddem yn meddwl oedd angen eu gwneud i godi’r band ar ei draed.
“Roedd pethau amlwg rydym wedi rhoi ynddo fo, dydw i ddim eisiau datgelu gormod…
“Ond rydym wedi gwneud gwelliannau mawr tu mewn i’r cwt i wneud yr adeilad yn fwy defnyddiol i ni, ac mae’n edrych llawer, llawer gwell rŵan.
“Rydym wedi gweithio efo llawer o bobol leol.
“Maen nhw wedi gwneud prosiect bach ffotograffiaeth efo plant bach yn y Chwarel Lechi yn Llanberis.
“Rydym wedi codi proffil a phawb yn gweithio efo’i gilydd.
“Mae o wedi gwneud yr adeilad yn fwy o ganolbwynt yn y pentref.
“Mae’n dda iawn beth sydd wedi digwydd.
“Rydym yn falch iawn bod nhw wedi helpu ni.”
‘Bron iawn rhoi’r gorau iddi’
Mae’r band yn agos at galon Graham Williams, ac mae pethau’n edrych yn llewyrchus erbyn hyn gyda’r datblygiadau i’r Cwt Band ac aelodau newydd yn ymuno â nhw.
“Yr hanes tu ôl iddo fo i gyd ydy, rydym ni yn fand sydd bron iawn wedi gorfod rhoi’r gorau iddi oherwydd roedd yna nifer isel o aelodau a ballu, a doedd yna ddim band iau,” meddai Graham Williams.
“Roedd llawer o bobol wedi gadael y band.
“Mae o wedi bod reit heriol i drio recriwtio aelodau newydd.
“Wrth gwrs, gwnaeth Covid pethau yn waeth.
“Ar y pwynt yna, gwnaethon ni adeiladu.
“Gwnaethon ni bron iawn roi’r gorau iddi, ond gwnaethon ni benderfynu parhau.
“Rydym wedi cario ymlaen a chario ymlaen, ac wedi dechrau adeiladu’r band yn araf deg.
“Rwy’ o Lanrug yn wreiddiol, a hwnna oedd fy mand pan oeddwn yn hogyn bach.
“Roedd yn agos at fy nghalon i ’mod i’n gwneud gymaint â fedra’i i achub y band.
“Cefais fy mhenodi dair, pedair blynedd yn ôl i fod yn gadeirydd.
“Ers hynny, rwy’n gadeirydd, trysorydd ac rŵan hefyd rwy’n arweinydd.”
‘Help gwerthchweil’
Dywed Graham William ei fod yn ddiolchgar i bobol o bell ac agos, hen ac ifanc, am gefnogi datblygiad y band.
“Mae’r band yn gwerthfawrogi help pawb yn y pentref a thu allan i’r pentref,” meddai.
“Mae’r help rydym wedi’i gael i wireddu’r prosiect wedi bod yn werthchweil.
“Roedd yn ffantastig gweld y gymuned yn dod at ei gilydd.
“Roedd llawer o bobol wedi dod i’r cwt band yn ystod y diwrnod agoriadol.
“Roedd yn neis gweld pobol doeddwn i heb weld ers blynyddoedd.
“Daethon nhw allan o bob man i weld ni’n agor y band eto.
“Mae pethau fel yna yn ffantastig.
“Mae’n bwysig, mewn ffordd, i ni fel band ac fel pentref bo ni wedi medru cadw’r band yn mynd, gan fod o un o fandiau hynaf Cymru.”
‘Rhan bwysig o hanes y pentref’
Gan roi clod i Prosiect Pum Mil, mae Beca Brown, cynghorydd Llanrug, yn cydnabod fod y band yn denu pobol ifanc.
Gyda’r band wrth galon y gymuned, cafodd gig ei gynnal i godi arian yn ddiweddar, a hwnnw’n llwyddiant mawr.
“Roedd hi’n wych gweld tîm y gyfres Prosiect Pum Mil yn dod i Lanrug, ac rwy’ wrth fy modd eu bod nhw wedi dewis y Cwt Band fel un o brosiectau’r gyfres,” meddai Beca Brown wrth golwg360.
“Mae Seindorf Arian Llanrug yn rhan bwysig o hanes y pentref, a chenedlaethau o bobol a phlant lleol wedi elwa o gael bod yn aelodau.
“Rwy’n ymwybodol o’r ymdrechion sydd eisoes ar waith gan y band i ddenu aelodau newydd, ac rwy’n gobeithio y bydd y gweddnewidiad yma i gartref y band yn ei wneud yn fwy deniadol byth.
“Yn ddiweddar yn y pentref, mi wnaeth yna griw bach ohonom ni drefnu gig yn nhafarn y Penbont er mwyn codi arian ar gyfer y band.
“Roedd Alys Williams ac Osian Huw [Williams] yn chwarae yna, yn ogystal â band Y Cledrau, ac mi godwyd swm bach taclus o arian.
“Mae’r pentref i gyd yn gefnogol iawn i’r band gan ei fod yn rhoi cyfleoedd cerddorol a chymdeithasol i blant a phobol ifanc leol, a hynny ar stepen eu drws.”