Mae’r rhestr fer ar gyfer cystadleuaeth newydd Brwydr y Bandiau Gwerin yr Eisteddfod Genedlaethol a BBC Radio Cymru wedi’i chyhoeddi ar raglen Aled Hughes heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 27).
Mae hon yn gystadleuaeth newydd sbon sydd wedi’i chyflwyno am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni, a’r bwriad yw dilyn esiampl llwyddiant cystadleuaeth Brwydr y Bandiau drwy greu cynllun tebyg ar gyfer cerddorion gwerin, sy’n cynnig cyfle i ddatblygu artistiaid a chryfhau’r sin werin ar gyfer y dyfodol.
Y beirniaid eleni yw Lleuwen Steffan a Gwilym Bowen Rhys.
Mae pedwar o artistiaid neu fandiau wedi cyrraedd y rhestr fer eleni, sef Melda Lois, artist unigol sy’n wreiddiol o Gwm Croes, Penllyn; Lo-Fi Jones, band o Fachynlleth a Chaerdydd; Y Brodyr Magee, grŵp teuluol o ardal Ynys Môn; a Rhiannon, sy’n artist unigol o Ffarmers, Sir Gaerfyrddin.
Mae’r gystadleuaeth yn agored i grwpiau neu unigolion gyda’r rheini sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn pecyn datblygu proffesiynol sy’n cynnwys recordio a ffilmio dwy gân mewn set byw, ac mae un o ganeuon pob artist neu fand wedi’i gynnwys ar sianel YouTube yr Eisteddfod, gyda’r rhain wedi’u rhyddhau heddiw wrth gyhoeddi’r rhestr fer.
Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal yn y Tŷ Gwerin ar Faes yr Eisteddfod, ddydd Mawrth, Awst 8 am 3:30yp.
Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr o £600 (£300, Clwb Gwerin y Castell, Cricieth, a £300 gan Hefina a Tomos, Tyddyn Cae, Boduan), ynghyd â sesiwn ar BBC Radio Cymru.
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn cael ei chynnal ym Moduan o Awst 5-12 Awst.