Mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn cael ei ddefnyddio yn y gogledd er mwyn helpu i ganfod achosion o ganser y fron.
Yn sgil treialon llwyddiannus yn dadansoddi biopsïau, arweiniodd at gynnydd o 13% yn yr achosion o ganser oedd yn cael eu canfod, mae platfform deallusrwydd artiffisial IBEX Galen yn cael ei dreialu gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr pan fo amheuaeth o ganser y fron.
Mae’r adnodd yn dadansoddi delweddau digidol o samplau patholeg, gan nodi pa rai sy’n debygol o fod â chanser drwy system goleuadau traffig.
Caiff y samplau eu hadolygu gan glinigwyr wedyn.
Drwy ddosbarthu’r delweddau, caiff y flaenoriaeth ei rhoi i’r achosion mwyaf brys.
Mae platfform deallusrwydd artiffisial IBEX bellach yn cael ei brofi mewn chwe bwrdd iechyd, gyda’r nod o ddefnyddio’r dechnoleg hon fel rhan o brofion rheolaidd am ganser y prostad.
Er mwyn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes ar y gweill, lansiodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan y Strategaeth Digidol a Data ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 27).
Mae’r strategaeth hon yn amlinellu’r disgwyliadau ar fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, a darparwyr gofal cymdeithasol, ynghylch sut i ddefnyddio technolegau digidol a data er mwyn gwella ansawdd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gwella profiad y claf a grymuso pobol i reoli eu hiechyd.
‘Gweddnewid’ gwasanaethau
Dywed Eluned Morgan fod modd “gweddnewid” y ffordd rydyn ni’n ymwneud â’r Gwasanaeth Iechyd, dod o hyd i ffyrdd newydd o achub bywydau, a gwella gwasanaethau.
“Mae defnyddio technoleg a arweinir gan ddata mewn modd arloesol ac effeithiol, gan symud at ofal iechyd digidol a manteisio ar dechnoleg newydd, yn hanfodol er mwyn inni ddelio â’r galw aruthrol a’r pwysau cynyddol ar y Gwasanaeth Iechyd,” meddai.
“Mae Cymru yn arloesi ym maes gofal iechyd digidol.
“Bydd moderneiddio’r Gwasanaeth Iechyd yn cael ei arwain gan dechnolegau digidol, data ac arloesedd yn y blynyddoedd nesaf.
“Dyna pam rwy’n lansio’r Strategaeth Digidol a Data ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei newydd wedd.
“Mae’n amlinellu sut y gallwn ni roi technolegau digidol wrth wraidd ein cynlluniau i gynyddu’r defnydd ohonyn nhw ac i fanteisio ar ddatblygiadau technolegol er mwyn gwella gofal iechyd yng Nghymru a helpu pobl i fyw bywydau hapusach, iachach a hirach.”
‘Torri tir newydd’
Dywed Dr Muhammad Aslam, patholegydd ymgynghorol a chyfarwyddwr clinigol Gwasanaethau Cymorth Diagnostig a Chlinigol Gogledd Cymru, fod “defnyddio deallusrwydd artiffisial ar gyfer gwneud diagnosis a rhoi prognosis o ganser yn ein rhoi ar drothwy byd cyffrous newydd”.
“Rwy’n credu hyn yn gryf, ac mae’n wych gweld y defnydd o’r hyn dwi’n ei alw yn ddeallusrwydd cynorthwyol, yn cael ei efelychu ledled Cymru,” meddai.
”Rwy’n falch mai Betsi Cadwaladr oedd y bwrdd iechyd cyntaf yn y Deyrnas Unedig i dorri tir newydd drwy ddefnyddio’r dechnoleg hon yn glinigol, gyda chymorth cyllid Menter Ymchwil Busnesau Bach Llywodraeth Cymru.
“Mae canfod canser yn gynnar yn achub bywydau.
“Ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr mae deallusrwydd artiffisial yn gwella prosesau gwneud diagnosis o ganser y prostad a chanser y fron.
“Ond megis dechrau yw hyn, a bydd yn arwain at wneud diagnosis yn gynt a darparu prognosis mwy cywir i gleifion â gwahanol fathau o ganser.”