Bu farw Ann Clwyd yn 86 oed yr wythnos hon. Yma, mae Rob Phillips o Lyfrgell Genedlaethol Cymru’n ei chofio fel “un o Aelodau Seneddol Cymru amlycaf ei chyfnod, a hynny heb ddal swydd fel gweinidog Llywodraeth”, ac yn sôn am ei harchif yn y Llyfrgell yn Aberystwyth…
Bydd Ann Clwyd, sydd wedi marw yn 86 oed, yn cael ei chofio fel un o Aelodau Seneddol Cymru amlycaf ei chyfnod, a hynny heb ddal swydd fel gweinidog Llywodraeth.
Fel newyddiadurwraig gyda’r Guardian a’r Observer, dangosodd ddiddordeb yn un o’r pynciau fyddai’n diffinio ei gyrfa wleidyddol, sef hawliau dynol. Roedd hi’n gweithio i’r BBC yng Nghaerdydd adeg trychineb Aberfan yn 1966 a chafodd gweld yr ymdrechion achub effaith fawr arni. Cyfrannodd ei phrofiadau fel newyddiadurwraig at yr ysbryd ymgyrchu a nodweddai ei gyrfa wleidyddol.
Cafodd ei hethol i gynrychioli sedd Canolbarth a Gorllewin Cymru yn Senedd Ewrop yn 1979 gyda mwyafrif o 10,000 dros y Ceidwadwyr, ac yna ennill yr is-etholiad yn 1984 ar gyfer sedd Cwm Cynon yn San Steffan. Hi oedd y bedwaredd fenyw i gynrychioli sedd Gymreig yn San Steffan, a’r fenyw gyntaf i gynrychioli sedd ym maes glo’r de. Trwy gydol ei hoes wleidyddol, roedd ganddi berthynas agos gydag undeb y glowyr.
Roedd hi’n aelod lleol cydwybodol ac uchel ei pharch yng Nghwm Cynon, ac yn fodlon ymgyrchu mewn dulliau anarferol i gael sylw i achosion. Roedd yn llai o syndod i’r rhai oedd yn ei hadnabod nag eraill ei bod hi’n fodlon cymryd rhan mewn protest ar waelod Glofa’r Tŵr yn Hirwaun yn erbyn cau’r pwll yn 1994. Ailagorodd y pwll dan berchnogaeth y glowyr yn 1995. Roedd ei darlith yn y Llyfrgell Genedlaethol yn 2016 yn llawn straeon am y diwydiant glo, yr undebau, y cymunedau ac ymgyrch Glofa’r Twr.
Roedd hi’n driw i’r Blaid Lafur, ond roedd ei meddwl annibynnol yn aml yn achosi penbleth i gyfres o arweinyddion y blaid a chafodd ei diswyddo fel gweinidog cysgodol ddwywaith: yn 1988 am ei safbwynt ar arfau niwclear ac yn 1995 am golli pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin.
Ar adeg yr ail achos, roedd Ann yn arsylwi ar ymosodiad gan Dwrci ar ardal y Cwrdiad yn Irac. Roedd hawliau’r Cwrdiaid yn hynod bwysig iddi a bu’n ymgyrchu’n barhaus drostynt. Roedd hi’n codi cwestiynau anodd i Lywodraeth Twrci ac yn gweithio trwy fudiadau fel INDICT a CARDRI i gofnodi troseddau Saddam Hussein yn erbyn y Cwrdiaid a chymunedau eraiIl yn Irac.
Roedd ei chefnogaeth i Ryfel Irac yn 2003 yn siom i rai ar adain chwith y Blaid Lafur ond yn seiliedig ar ei diddordeb mewn hawliau dynol a’i hawydd i sicrhau atebolrwydd am droseddau yn erbyn y Cwrdiad a phobol Irac yn gyffredinol. Yn syndod i rai, datblygodd ei pherthynas gyda’r Prif Weinidog Tony Blair yn dilyn y rhyfel a chafodd ei phenodi yn Gennad Arbennig ar Hawliau Dynol yn Irac. Ymwelodd sawl gwaith i ymchwilio ac adrodd ar y sefyllfa yno yn dilyn y Rhyfel.
Roedd ei diddordeb mewn hawliau dynol yn ganolog i’w gyrfa. Mae ei harchif yn y Llyfrgell Genedlaethol yn tystio i’w diddordeb mewn democratiaeth, cyfiawnder a datblygu gydag adroddiadau a phapurau seneddol di-ri am allforio arfau, prosiectau datblygu megis argaeau Ilisu a Pergau, a gohebiaeth am unigolion mewn carchardai ar draws y byd. Roedd Ann â diddordeb mawr yn Nwyrain Timor, Cambodia, Palesteina a Thwrci. Roedd ganddi gysylltiadau gydag aelodau seneddol ar draws y byd fel arweinydd grŵp Prydain ar Undeb Rhyng-seneddol a chadeirydd pwyllgor hawliau dynol y mudiad.
Roedd Ann yn bencampwr hawliau menywod, gan noddi mesur yn erbyn anffurfio organau cenhedlu benywod yn 2003, ymgyrchoedd dros dynhau rheoleiddio ar lawdriniaeth gosmetig a sicrhau darpariaeth trin gwallt i fenywod ym Mhalas San Steffan.
Yn dilyn marwolaeth ei gŵr, Owen Roberts, daeth hi’n lladmerydd dros gleifion a’u teuluoedd am safonau gofal yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Siaradodd o’r galon am ei phrofiadau yn y Senedd, ac o ganlyniad gofynnwyd iddi gan y Prif Weinidog, David Cameron, i arwain adolygiad ar drefn cwyno o fewn y gwasanaeth iechyd.
Roedd Ann yn angerddol dros y Gymraeg, yn aelod o’r Orsedd ac un o noddwyr mesur preifat ar y cyd â Dafydd Wigley a Paul Flynn yn 1996 i greu Senedd i Gymru.
Trosglwyddodd Ann ei harchif sylweddol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 2019 a 2023, ac roedd yn awyddus i sicrhau bod ei phapurau ar bynciau fel hawliau dynol, lles anifeiliaid, iechyd, datblygu rhyngwladol ac Irac ar gael ar gyfer ymchwil a dysg. Roedd hi’n cymryd diddordeb yn y gwaith o drefnu a chatalogio’r archif ac yn allweddol i’r cais gyda Phrifysgol Aberystwyth i gael myfyriwr PhD i astudio’r casgliad. Yn ei digwyddiad cyhoeddus olaf, cymerodd rhan mewn sesiwn yn y Llyfrgell Genedlaethol gydag academyddion ac archifyddion i drafod themâu a chynnwys ei harchif.
Gadawodd Ann y Senedd yn Etholiad Cyffredinol 2017, a chyhoeddodd ei hunangofiant, Rebel with a Cause, yn 2017.