Mae’r cynlluniau ar gyfer safleoedd posib i Sipsiwn a Theithwyr mewn dwy ardal wledig yn Sir Fynwy wedi cael eu diystyru, ond mae’n bosib y gallai safleoedd eraill ger yr M4 gael eu hystyried o hyd.

Cafodd y penderfyniad i beidio ystyried safleoedd ar Gomin Mitchell Troy a Manson Heights – tir oedd unwaith yn ysbyty ynysu – ei gyhoeddi gan y Cynghorydd Sara Burch yng nghyfarfod Cabinet y Cyngor Sir, lle mai’r bwriad yn wreiddiol oedd cytuno i ddechrau ymgynghoriad ar hyd at bum safle.

Yr wythnos ddiwethaf, galwodd pwyllgor craffu’r Cyngor ar i’r Cabinet Llafur dynnu’n ôl o’r holl safleoedd roedden nhw’n ystyried ymgynghori arnyn nhw, ar gyfer 13 safle parhaol, gan eu bod nhw’n dweud nad oedden nhw’n addas, a doedd dim cefnogaeth iddyn nhw gan drigolion lleol na’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, wrth y Cyngor llawn y byddai hi’n rhoi diweddariad yn ystod cyfarfod y Cabinet ddydd Mercher, Gorffennaf 26, a chadarnhaodd hi neithiwr na fyddai safleoedd Mitchell Troy na Mansion Heights bellach yn cael eu hystyried.

Safleoedd dan ystyriaeth o hyd

Ond bydd Langley Close ger yr M4 ym Magwyr a thir i’r gorllewin o Dancing Hill yn Undy yn parhau dan ystyriaeth fel bod modd i’r Cyngor ymchwilio ymhellach i’w haddasrwydd “ar gyfer unrhyw ddatblygiad”.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch fod yr adroddiad, oedd yn argymell fod y Cyngor yn dechrau ymgynghori ar y safleoedd, yn cael ei roi o’r neilltu tan fis Medi gyda’r bwriad i’r Cyngor edrych ar safleoedd ym Magwyr ac Undy, ac unrhyw safle arall sy’n dod i’r fei yn dilyn apêl ar gyfer safleoedd posib.

Y bwriad wedyn fyddai i’r Cabinet ymgynghori arnyn nhw cyn cyflwyno’r safleoedd sydd wedi’u hadnabod yn y Cynllun Datblygu Lleol, sy’n amlinellu lle dylid gosod yr holl ddatblygiadau newydd, ym mis Tachwedd.

Ymateb cynghorwyr

“Daeth hi’n glir nad yw’r safleoedd ym Manson Heights na Mitchell Troy yn addas, a dw i ddim yn cynnig ymgynghori arnyn nhw,” meddai Cynghorydd ward Cantref y Fenni.

Dywedodd Frances Taylor, Cynghorydd Gorllewin Magwyr sy’n arwain grŵp annibynnol y Cyngor, nad oedd y Cynghorydd Sara Burch yn dilyn argymhelliad y pwyllgor craffu, drwy gadw safleoedd Magwyr ac Undy dan ystyriaeth, y dylai’r gwaith ddechrau eto gan nad yw’r un o’r safleoedd yn addas.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch nad yw hi’n bwriadu edrych eto ar 17 safle ar y rhestr fer, a bod y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi cael eu diystyru gan eu bod nhw’n dir mwyn, ond ei bod hi eisiau cadw safleoedd Magwyr ac Undy dan ystyriaeth.

“Mae angen cynnal rhagor o ymchwiliadau er mwyn penderfynu a ydyn nhw’n addas ar gyfer unrhyw fath o ddatblygiad,” meddai.

“Dyna lle’r ydyn ni, a byddaf yn dychwelyd gydag argymhellion ar gyfer cynnig ym mis Medi.

Galwad o’r newydd

Bydd galwad o’r newydd ar dirfeddianwyr, aelodau’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr, neu unrhyw un arall i gynnig safleoedd posib yn cau ym mis Awst.

Ond mae’r Cyngor yn dweud nad oes unrhyw gynnig wedi cael ei gyflwyno.

Mae modd cyflwyno safleoedd posib i’r Cyngor eu hystyried drwy e-bostio HousingRenewals@monmouthshire.gov.uk erbyn dydd Mercher, Awst 23.