Mae bosib y bydd Llywodraeth Cymru yn wynebu achos llys yn sgil eu penderfyniad i beidio â darparu prydau ysgol am ddim dros wyliau’r haf.

Yn ôl y Public Law Project, oedd yn gyfrifol am gyflwyno’r her gyfreithiol, bu i Lywodraeth Cymru dorri eu cyfreithiau eu hunain.

Maen nhw’n cyflwyno’r her ar ran mam sengl yng Nghaerdydd sy’n ceisio lloches.

“Nid yw’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd unrhyw un o’r camau sy’n ofynnol gan ei chanllawiau ei hun ar sut i weithredu yn unol â’r rheolau ar benderfyniadau sy’n effeithio ar bobl sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol,” meddai’r cyfreithiwr Matthew Court.

Mae’r Public Law Project yn honni bod y diffyg rhybudd i deuluoedd yn anghyfreithlon, gan nad yw’n ystyried sut i leihau’r effaith ar bobol ddifreintiedig.

Dydyn nhw ddim yn derbyn honiadau Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad i waredu’r cynllun ym mis Mawrth.

Cafodd cynghorau wybod fod yr arian i ariannu’r cynllun yn dod i ben ar Fehefin 28.

Maen nhw wedi galw am adfer y cynllun ac am gynnal ymgynghoriad i effaith y penderfyniad.

Os caiff yr asesiad ei fethu, maen nhw’n dweud y bydd yr hawlydd yn gwneud cais am adolygiad barnwrol yn y llys.

Mae’r cyfreithwyr eisoes wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg Jeremy Miles yn dweud nad os tystiolaeth fod gweinidogion wedi cydymffurfio’n ddigonol â’u dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.

Ymateb y gwrthbleidiau

Dywed Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, y dylai teuluoedd fod wedi derbyn mwy o rybudd am y cynlluniau.

“Beth bynnag yw eich barn am y cynllun, fe ddylai gweinidogion Llafur yn y Senedd fod wedi rhoi amser i rieni gynllunio,” meddai.

“Yn lle hynny, maen nhw wedi ei dynnu’n ôl heb fawr o rybudd.

“Mae prosiectau gwagedd fel creu 36 yn fwy o wleidyddion yn tynnu eu sylw, a dyma’r penderfyniad blêr diweddaraf maen nhw wedi’i wneud.”

Cafodd yr un pryder ei adleisio gan Sioned Williams, sy’n aelod o Bwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg y Senedd.

“Wnaethon ni ddim derbyn unrhyw ddatganiad na rhybudd i’r Senedd am hyn, naill ai ar lafar neu yn ysgrifenedig, gyda jest ychydig o wythnosau ar ôl o dymor y Senedd a hefyd wrth gwrs o’r tymor ysgol,” meddai.

“Maen elusennau plant yn poeni yn unfryd ac wedi ysgrifennu at y Gweinidogion yn dweud bydd y penderfyniad yma yn cael canlyniadau ofnadwy a bydd plant yn mynd heb fwyd dros yr haf.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod “yn ystyried eu hymateb.”

“Mae llythyr cyn-gweithredu yn amlinellu adolygiad barnwrol arfaethedig wedi dod i law mewn perthynas â darparu prydau ysgol am ddim dros wyliau’r ysgol,” meddai.

Cynllun newydd Cyngor Torfaen

Yn y cyfamser, mae manylion taliad arian parod ar gyfer teuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd i’w helpu nhw yn sgil dileu prydau ysgol am ddim dros wyliau’r haf wedi’u cyhoeddi.

Dywed Cyngor Bwrdeistref Torfaen eu bod nhw’n bwriadu gwneud taliad untro o £50 i deuluoedd sydd â’r hawl i brydau ysgol am ddim, yn seiliedig ar fod yn aelwyd incwm isel.

Mae’r Cyngor bellach wedi cadarnhau y bydd y taliadau hynny’n cael eu gwneud yr wythnos nesaf, gan ddweud y “bydd Taliad Gwyliau’r Haf Costau Byw Torfaen yn cael eu gwneud i’ch cyfrif banc, a does dim angen gwneud cais”.

Dim ond i deuluoedd sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim oherwydd eu hincwm mae’r taliad yn cael ei wneud, sef y rhai sydd â’r hawl i dderbyn budd-daliadau neu sydd ag incwm llai na £7,400 y flwyddyn dros y trothwy ar gyfer Credyd Cynhwysol.

Does dim cymorth ychwanegol ar gyfer y disgyblion cynradd hynny sydd ond yn derbyn prydau ysgol am ddim.”

Yn ardal Blaenau Gwent gyfagos, dywed y Cyngor y byddan nhw’n gwneud taliad uniongyrchol o £19.50 yr wythnos ar gyfer pob plentyn dros wyliau’r haf, i deuluoedd sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim, yn seiliedig ar gymhwysedd, tra bydd teuluoedd cymwys yng Nghaerffili’n derbyn £117 y pen ar gyfer pob plentyn yn ystod gwyliau’r ysgol.

Mae Torfaen hefyd wedi cadarnhau bod eu taliadau fydd, yn ôl pob tebyg, yn helpu bron i 4,300 o blant y sir, wedi’u cyfyngu i’r haf yma a fyddan nhw ddim yn cael eu hailadrodd yn y dyfodol.

“Mae taliadau gwyliau ysgol wedi dod i ben, ond rydym yn deall fod yna deuluoedd o hyd sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi â chostau byw,” meddai Anthony Hunt, arweinydd Llafur y Cyngor.

Mae’r taliadau ar ben cynllun Bwyd a Hwyl gwasanaeth chwarae Cyngor Torfaen, fydd hefyd yn darparu bwyd mewn nifer o leoliadau yn ystod gwyliau ysgol